Mae’r Mail on Sunday yn adrodd fod Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi bod yn yfed mewn bar yn San Steffan ar ôl 10 o’r gloch – yn groes i’r rheolau coronafeirws.
Mae’r papur yn cyhuddo Tŷ’r Cyffredin o geisio gelu’r gwir ar ôl iddyn nhw gyfaddef fod aelodau seneddol wedi torri’r cyrffiw, ond maen nhw’n gwrthod dweud a oedd Matt Hancock yn eu plith.
Ond roedd e yno, yn ôl un Ceidwadwr blaenllaw, ac mae pwysau arno i gyfaddef ei ran yn yr helynt.
“Dw i’n cadw 100% at fy stori,” meddai’r Ceidwadwr. “Dw i’n gwybod beth welais i, a phryd.”
Ond mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi gwrthod dweud 30 o weithiau a wnaeth e ddychwelyd i’r bar ar ôl pleidlais am 9.40yh, a’r awgrym yw iddo wneud jôc sâl am anallu Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar ôl iddyn nhw golli bron i 16,000 o brofion coronafeirws positif.
“Fi sy’n cael y diodydd – ond mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn gyfrifol am fethodoleg y taliad felly fydda i ddim yn talu dim,” meddai, yn ôl honiadau.
Mae Charles Walker, Ceidwadwr oedd wedi cynnal ymchwiliad i’r cyrffiw yn dweud y byddai’n annheg gofyn i staff yn y bar enwi unrhyw un oedd yno.
Datganiad Matt Hancock
Yn ôl datganiad ar ei ran, dydy Matt Hancock ddim yn gwadu gwneud y jôc, ac mae’n cyfaddef ei fod e yn y bar y noson honno, gan ddweud nad oedd e wedi torri unrhyw reolau.
Mae’n dweud ei fod e yn y bar ar noson y bleidlais, ond mae ei lefarydd yn gwrthod dweud a wnaeth e ddychwelyd yn ddiweddarach.
Mae Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, bellach wedi gwahardd gwerthu alcohol yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae arwydd newydd yno’n amlinellu’r rheolau.
Mae’r Mail on Sunday yn dweud iddyn nhw wneud 30 cais am sylw gan Matt Hancock, gan gynnwys negeseuon e-bost a WhatsApp ddwywaith bob dydd.
Mae’r llefarydd wedi ymateb tair gwaith gan gyfeirio’r papur at un datganiad cychwynnol.
Yn ôl un ffynhonnell, mae pryderon y bydd aelodau seneddol yn parhau i anwybyddu’r rheolau gan eu bod nhw’n teimlo bod ganddyn nhw fwy o awdurdod na staff y bar.