Mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol Cymru weithredu yn awr ar flaenoriaethau pobl ifanc, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe.

Heddiw (Llun, Hydref 19) bydd Sophie Howe yn cyflwyno ei Maniffesto ar gyfer y Dyfodol, gan alw ar wleidyddion i ymateb i alwadau pobl ifanc am newid yn dilyn pandemig y coronafeirws. 

Bydd pobl ifanc 16-17 mlwydd oed yn pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad Senedd ym mis Mai, 2021.  

Yn ei maniffesto, mae Sophie Howe yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru i ystyried cynnwys yr isod yn ei maniffesto.

  • Treialu incwm sylfaenol a gweithio tuag at weithredu wythnos waith byrrach.
  • Cyflwyno’r cysyniad o gymdogaeth 20-munud ar gyfer pob tref a dinas yng Nghymru; gwneud band eang yn wasanaeth hanfodol a sicrhau bod pobl yn gallu cyrchu man gwyrdd naturiol o fewn 300 metr i’w cartref.
  • Buddsoddi mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Natur ac ymrwymo i gynyddu gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn.
  • Lleihau gwariant ar seilwaith ffyrdd a chynyddu gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gan gynnwys cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc yng Nghymru.
  • Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gefnogi’r newid i ddyfodol gwell, gan greu swyddi newydd gwyrddach a chreu cynllun ar gyfer ymateb i dueddiadau’r dyfodol mewn ffyrdd sy’n lleihau anghydraddoldebau yn hytrach na’u gwaethygu.

“Mae’r pandemig yn peri aflonyddwch cynyddol i’n pobl ifanc ac ansicrwydd am y dyfodol ac mae’r newidiadau i’w bywydau wedi bod yn ddramatig,” meddai Sophie Howe.

“Mae’r etholiad Seneddol hwn o’r pwys pennaf ac mae angen i wleidyddion Cymru fod yn flaengar. 

“Rhaid i bolisïau ddangos i bobl ifanc y byddant yn cael eu cynorthwyo i fyw bywydau boddhaol yn dilyn Covid, ac y bydd cymdeithas yn dysgu o’i chamgymeriadau, yn cynllunio’n well ac yn gwneud yn well.  

“Ein dyletswydd iddynt yw herio COVID-19 a gwneud eu buddiannau yn ganolbwynt ein hymateb – gan warchod eu llesiant a’u dyfodol hirdymor.”