Bydd cymunedau’n cael eu haberthu os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan Ian Blackford.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ddweud y dylai’r Deyrnas Unedig baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb ar ôl y cyfnod trosglwyddo, gan sbarduno gofid ymysg busnesau.

Mae disgwyl i drafodaethau masnach pellach gael eu cynnal heddiw (Hydref 19), gyda Michael Gove yn dweud bod y drws wedi cael ei adael yn “gilagored” i gytundeb gael ei chwblhau.

Dywedodd Ian Blackford y byddai Brexit heb gytundeb yn gwaethygu’r amgylchiadau anodd mae pandemig y coronafeirws wedi ei achosi eisoes.

“Mae hyn yn taflu busnesau a chymunedau o dan fws,” meddai wrth raglen Good Morning Scotland.

“Dylai’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ein harswydo tra’r ydym yng nghanol pandemig, pan mae’n economi’n wynebu peryglon sylweddol, pan mae pobol yn colli eu swyddi.”

Aeth ymlaen i ddweud bod trafodaethau yr oedd wedi eu cynnal gyda diplomyddion o’r Undeb Ewropeaidd dros y penwythnos wedi awgrymu fod y bloc yn fodlon cyfaddawdu, os oedd y Deyrnas Unedig yn barod i wneud yr un peth.

“Annibyniaeth yw’r unig ffordd i warchod yr Alban”

Dywedodd Ian Blackford mai “annibyniaeth yw’r unig ffordd i warchod yr Alban.”

“Yr hyn rydym wedi ei gael yw Llywodraeth San Steffan nad yw’n fodlon cynnal trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd a sicrhau cytundeb sy’n gwarchod cwsmeriaid, sy’n gwarchod busnesau, ac sy’n ein cadw yn y farchnad sengl a’r undeb tollau,” meddai.

“Gyda’r ideoleg maen nhw wedi ei wthio ynghylch cymryd rheolaeth yn ôl o’u dyfroedd a’u ffiniau, gallant gymryd rheolaeth yn ôl, ond maen nhw’n mynd i golli allan ar fynediad i’r marchnadoedd hyn, sydd ddim yn lle synhwyrol i fod.”