Dros y dyddiau diwethaf, mae sawl person yn ardal Aberystwyth wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i drafod eu rhwystredigaeth am orfod disgwyl bron i wythnos am ganlyniadau profion coronafeirws.
Mae dau safle profi yng Aberystwyth, un yng Nghanolfan Rheidol a’r llall ar Riw Penglais, sydd ar agor ers rhai wythnosau bellach. Er bod y broses o gael prawf wedi bod yn ddidrafferth, mae’r oedi cyn derbyn y canlyniadau wedi arwain at gryn gwyno, wrth i sawl teulu gael eu gorfodi i roi eu bywydau ar stop.
Mewn neges ar ei chyfrif Twitter, soniodd un rhiant am ei rhwystredigaeth…
Y ienga' yn sâl da annwyd a bach o beswch.Di cal prawf bore Mawrth a phawb adre.Aros 5 diwrnod am ganlyniad.Dim.Ffonio bore ma, nhw'n lansio ymchwiliad, os na glywn mewn 3 diwrnod eto rhaid dal i hunanynysu.Plant iach di colli wthnos o ysgol yn barod.Afresymol teimlo'n siomedig?
— Lowri Schiavone (@LowriSchiavone) October 18, 2020
Er bod ymchwiliad wedi ei lansio, eglurodd y bydd rhaid hunanynysu am y cyfnod llawn os na fydd unrhyw ganlyniad wedi eu cyrraedd o fewn tri diwrnod.
Mi fydd hynny’n golygu bod rhaid i weddill y teulu, sydd yn holliach, barhau i hunanynysu hefyd.
Llawer un arall yn yr un cwch
Ymddengys nad achos unigol yw hwn a bod llawer un arall o Geredigion yn yr un cwch.
Un o’r rhain yw Tom Evans, sydd wedi bod yn disgwyl chwe diwrnod i brawf ei blentyn ddod yn ôl.
Yn yr un cwch ma!! Y mab yn cael Prawf am 9-30 bore Dydd Mawrth a dal heb glywed dim byd! Pawb bant o gwaith a plant wedi colli wythnos o Ysgol a ddim yn edrych fel bod nhw am ddychwelyd fory chwaith. #gwarthus #shambles
— Tom Evans (@tompendreevans) October 18, 2020
Mewn sgwrs gydag golwg360 dywedodd bod y sefyllfa yn “rhwystredig iawn”.
“Mae’r plant yn colli ysgol ar ôl colli cymaint o amser yn barod, dros rywbeth mor syml”, meddai Tom Evans.
“Yr holl fater o ddim gwybod sydd yn ein cael ni.”
Eglurodd ei fod yn gofidio bod y sefyllfa yn mynd i atal pobl rhag mynd a chael prawf yn y dyfodol.
“Dwi isio’r prawf ddod yn ôl – naill ffordd neu’r llall!”
“Dwi isio’r prawf ddod yn ôl – naill ffordd neu’r llall… ond dydyn nhw ddim yn gallu rhoi atebion,” meddai un person yr oedd yn well ganddi aros yn ddienw, sydd hefyd wedi bod yn disgwyl chwe diwrnod am ganlyniad.
Wrth drafod y posibilrwydd fod rhai profion wedi mynd ar goll, dywedodd:
“Cwrteisi ydi dweud, mae’n ddrwg gen i, chi’n un o’r batch sydd wedi mynd ar goll. Dwi’n meddwl byddai pobl llawer mwy amyneddgar tuag at hynny.”
“Mae o’n wirion bost.”
“Anodd deall sut gall y system brofi fod mor ddiffygiol”
Mewn ymateb i’r sefyllfa, dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake:
“Rwy’n eithriadol o bryderus o glywed bod cynifer o unigolion a theuluoedd yng Ngheredigion wedi gorfod aros cyfnodau cwbl annerbyniol i gael canlyniadau eu profion Covid-19.”
“Mae’n anodd deall sut gall y system brofi fod mor ddiffygiol ar ôl cynifer o fisoedd. Gwn fod yr ansicrwydd a ddaw yn sgil yr oedi annerbyniol hwn yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd a gweithleoedd ar draws y sir,” meddai.
“Wrth reswm, fe ddylai’r system brofi hwn fod wedi’i berffeithio fisoedd yn ôl, ond gyda’r cyfyngiadau clo cenedlaethol fydd yn cael eu cyflwyno ddydd Gwener yma, mae nawr yn hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r gwendidau presennol cyn bod y cyfyngiadau’n codi ar y 9fed o Dachwedd.”
Yn ôl y Llywydd, Elin Jones, sy’n cynrychioli Ceredigion yn y Senedd:
“Mae’r cyfnodau hir o aros am ganlyniad prawf Covid yng Ngheredigion yn hollol annerbyniol, gyda bywyd ar stop i’r rheiny sydd yn disgwyl canlyniad,” meddai
“Mae angen i’r system brofi weithio’n gyflymach, ac i’r gyfundrefn olrhain gychwyn yn gynt.”