Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno clo dros dro ledled Cymru o ddydd Gwener (Hydref 23) mewn ymdrech i leihau lledaeniad y coronafeirws.
Mae’n golygu y bydd Cymru dan gyfyngiadau tebyg i’r rhai a osodwyd pan daeth y clo Mawr i rym y tro cyntaf ym mis Mawrth.
Yma, mae golwg360 yn edrych ar y cwestiynau allweddol sy’n ymwneud â chyfyngiadau newydd y wlad.
Pryd mae’n dechrau a phryd mae’n dod i ben?
Daw’r cyfyngiadau newydd i rym o 6yh ddydd Gwener gan barhau i fod ar waith dros wyliau hanner tymor yr ysgol a than ddydd Llun (Tachwedd 9).
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai’r cyfyngiadau mewn grym am “gyfnod penodol” ac na fyddent yn cael eu hymestyn tu hwnt i hynny.
Pryd gall pobl adael eu cartrefi?
Dim ond am rai rhesymau y caiff pobl adael eu cartrefi, gan gynnwys cael cyflenwadau hanfodol ar gyfer eu cartref, ymarfer corff, ceisio neu ddarparu gofal, a mynychu ysgolion.
Gall gweithwyr deithio i’w swyddi os yw’n ddiogel iddynt wneud hynny a bod eu gweithle’n parhau ar agor, ond dylai pobol weithio gartref os yw’n bosibl.
Bydd pobol yn cael ymweld â mynwentau a gerddi coffa, a bydd hawl gan bobol i wneud hynny ar Sul y Cofio, sydd i’w gynnal un diwrnod cyn i’r cyfyngiadau ddod i ben – ddydd Sul 8 Tachwedd.
Caniateir mynychu seremonïau ar gyfer priodasau, partneriaethau sifil ac angladdau, yn ogystal â mynychu gwrandawiadau llys, neu gael mynediad at wasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr neu ddioddefwyr troseddau neu gam-drin domestig.
A gaiff pobol gyfarfod ag aelwydydd eraill?
Dim ond gyda phobol y maent yn byw gyda nhw y caiff pobol gyfarfod, dan do ac yn yr awyr agored, ac mae hyn hefyd yn berthnasol i ymarfer corff.
Mae aelwydydd estynedig yn cael eu hatal, ond rhoddir eithriadau i oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain, aelwydydd un rhiant, y rhai sy’n darparu gofal i rywun gan gynnwys gofal plant, a’r rhai y mae angen iddynt ymweld â rhywun ar sail dosturiol.
Beth sy’n mynd i gau?
Bydd yn rhaid i fusnesau a lleoliadau, gan gynnwys tafarndai, bwytai, siopau nad ydynt yn hanfodol, canolfannau hamdden, campfeydd a llyfrgelloedd, oll gau.
Bydd ysgolion cynradd yn aros ar agor heblaw yn ystod y gwyliau hanner tymor, tra bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl yr hanner tymor i blant ym mlynyddoedd saith ac wyth yn unig.
A all pobl deithio i Gymru o fannau eraill yn y DU?
Bydd gan bobol hawl i deithio i weithle yng Nghymru, yn ogystal â theithio o Gymru i weithle yn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
Ond dywedodd Mark Drakeford na fyddai’r rhai sydd wedi archebu gwyliau yng Nghymru yn cael mynd gan nad yw’n cael ei ystyried yn reswm rhesymol.
Ni ddylai myfyrwyr o Gymru sy’n byw rywle arall yn y DU ddychwelyd i’w cyfeiriad cartref, tra dylai myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru ond sydd â chyfeiriad cartref y tu hwnt i’r wlad aros yng Nghymru.
A oes cyfyngiadau ar ymarfer corff?
Yn wahanol i’r clo blaenorol o dan ‘reol pum milltir’ Cymru, nid oes cyfyngiadau ar gyfer pellter nac amser ar gyfer ymarfer unigolyn y tro hwn
Ni all pobl ymarfer corff gydag unrhyw un nad ydynt yn byw gyda nhw.
Beth yw’r cosbau am dorri’r rheolau?
Bydd cosb o £60 i’r rhai sy’n gwrthod cydymffurfio, gyda’r swm yn codi i £120 am dorri’r rheolau eilwaith.