Mae menyw wedi cyfaddef lladd John Rees, 88 oed, yn ystod cyfres o drywaniadau mewn siop Co-op ym mhentref Pen y Graig, y Rhondda.

Plediodd Zara Anne Radcliffe, 30, yn euog i ddynladdiad oherwydd cyfrifoldeb lleiedig (dimished responsibility).

Roedd hi wedi gwadu llofruddiaeth.

Bu farw Mr Rees ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w wyneb yn yr ymosodiad wrth iddo siopa yn ystod y cyfnod clo.

Cyfaddefodd Radcliffe hefyd ymgais i lofruddio Andrew Price, Gaynor Saurin a Lisa Way. Anafwyd pob un ohonynt yn y digwyddiad ym mhentref Pen y Graig, y Rhondda, ar 5 Mai eleni.

Plediodd y diffynnydd, o Wyndham Street, y Porth, yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Merthyr.

Ymddangosodd drwy gyswllt fideo o ysbyty diogelwch uchel Rampton yn Swydd Nottingham lle mae’n cael ei chadw ar hyn o bryd.

Dywedodd Michael Jones QC, a oedd yn erlyn, wrth y llys fod y pledion yn dderbyniol i’r goron oherwydd ar adeg y digwyddiad roedd y diffynnydd yn dioddef o sgitsoffrenia.

Caiff Radcliffe ei dedfrydu ddydd Mercher yn Llys y Goron Merthyr.

Dywedodd Mr Jones wrth y llys: “[Rydych,] rwy’n gwybod, wedi gweld y dystiolaeth ffeithiol yn yr achos hwn, ond hefyd y dystiolaeth seiciatrig gan ddau seiciatrydd profiadol.

“Rydym wedi ystyried y dystiolaeth yn yr achos hwn yn ofalus iawn ac roedd y dystiolaeth seiciatrig yn dangos, ar adeg y troseddu, fod Miss Radcliffe yn ddifrifol wael.

“Mae’r pledion hynny’n cynrychioli, mae’r Goron yn dadlau, y dystiolaeth ffeithiol yn yr achos hwn a’r dystiolaeth seiciatrig yn yr achos hwn, sef, ar yr adeg berthnasol ac ar hyn o bryd, mae Miss Radcliffe yn dioddef o sgitsoffrenia.

“Mae’r erlyniad a thimau’r heddlu wedi ystyried y pledion hynny’n ofalus iawn ac maent yn adlewyrchu’r dystiolaeth ffeithiol yn yr achos hwn a’r dystiolaeth seiciatrig yn yr achos hwn ac, felly, rydym yn derbyn y pledion hynny fel y’u cofnodwyd.”

Clywodd cwest yn flaenorol y bu Mr Rees, a oedd yn byw ym mhentref cyfagos Trealaw gyda’i wraig Eunice, farw yn y fan a’r lle o drawma difrifol i’r wyneb.

Ymosodwyd arno gan Radcliffe tra’r oedd y tu mewn i’r siop wrth i’w wraig aros amdano y tu allan, gan eistedd yn eu car.

Mewn datganiad ar ôl ei farwolaeth, dywedodd ei deulu: “John oedd yr union ddiffiniad o ddyn da, roedd yn uchel ei barch ac yn boblogaidd yn y gymuned.

“Roedd yn falch o’i deulu, yn falch o fod yn Gymro, ac roed yn ymroddedig i Eglwys yr Holl Seintiau.

“Byddwn i gyd yn ei golli’n ofnadwy.”