Mae gŵr cenfigennus a ddenodd cariad ei wraig i fferm anghysbell a’i saethu’n farw wedi cael dedfryd o garchar am oes – a bydd rhaid iddo fod yn y carchar am o leiaf 30 mlynedd.
Canfu’r adeiladwr hunangyflogedig Andrew Jones, 53, fod Michael O’Leary, 55, yn cael perthynas gyda’i wraig Rhianon, 51 – ac aeth ati i gynllunio’i ddial.
Ar ôl ei saethu, ceisiodd Jones wneud i ddiflaniad y tad-i-dri edrych fel hunanladdiad – llosgodd ei gorff ar dân wedi’i wneud o baledi pren, gan hyd yn oed gynnal ‘gwasanaeth’ i’r gŵr a oedd yn ffrind iddo ers 25 mlynedd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe i Mr O’Leary gael ei lofruddio ar noson Ionawr 27 eleni ar ôl cael ei ddenu i Fferm Cyncoed yng Nghwmffrwd, Sir Gaerfyrddin, i gwrdd â Mrs Jones.
“Plis paid â gwneud hyn, Jones.”
Yn hytrach, canfu Mr O’Leary mai Andrew Jones oedd yno. Aeth Jones ati i saethu O’Leary yn farw gyda dryll .22 Colt, a hynny ar ôl anwybyddu ei alwadau am drugaredd: “Plis paid â gwneud hyn, Jones.”
Yna, gyrrodd Andrew Jones Nissan Navara Michael O’Leary i faes parcio lle anfonodd negeseuon fel petaent gan Mr O’Leary at ei wraig a’i blant, gan ddweud “Mae’n ddrwg iawn gen i”.
Nid yw corff Michael O’Leary erioed wedi’i ganfod a dim ond darn bach o’i berfedd y mae gwyddonwyr fforensig erioed wedi dod o hyd iddo, a hynny mewn iard gerllaw cartref Andrew Jones yng Nghaerfyrddin.
Lansiodd Heddlu Dyfed-Powys ymchwiliad person coll ar ôl cael gwybod gan deulu pryderus Mr O’Leary.
Roedd hyn yn benllanw perthynas rhwng Jones a’i wraig a oedd wedi dirywio ar ôl i Jones ddysgu nad oedd ei pherthynas ag O’Leary ar ben.
Dywedodd Jones, a wadodd lofruddiaeth, wrth y rheithgor fod ei ffrind wedi marw ar ôl i’r gwn, yr oedd am ei ddefnyddio i “ddychryn” Mr O’Leary, danio yn ystod ymladdfa.
“Roeddwn i eisiau iddo gael y neges – arhosa i ffwrdd oddi wrthym ni,” meddai Jones.
“Roeddwn i eisiau codi cywilydd arno, ‘Fe ddywedoch chi wrth fy merch nad oeddech chi’n mynd i gwrdd â [Rhianon] mwyach, a dyma chi’. Roeddwn i eisiau ei gywilyddio a chodi ofn arno.”
“Camau bwriadol”
Wrth groesholi, dywedodd William Hughes QC, a oedd yn erlyn: “Fe wnaethoch chi gymryd camau bwriadol i’w ddenu yno o dan yr esgus ffug ei fod yn mynd i gwrdd â Rhianon, a phan gyrhaeddodd yno, ymhell o’r ymladdfa a ddisgrifiwyd gennych, fe wnaethoch chi ei saethu’n farw mewn gwaed oer.
“Fe wnaethoch chi gynllunio’n ofalus […] i ladd Michael O’Leary… doedd ganddoch chi ddim mewn golwg ond ei lofruddio.”
Dywedodd Karim Khalil QC, a oedd yn amddiffyn, fod Jones, o Bronwydd Road, Caerfyrddin, yn “edifarhau” am yr hyn a ddigwyddodd.
“Rwy’n gwahodd y llys i dderbyn, fel y mynegodd, ei fod yn edifarhau am yr hyn a ddigwyddodd. Nid yw’n anghenfil gwaed oer,” meddai.
“Mae wedi ymddwyn yn echrydus a bydd y llys yn ei gosbi’n drwm iawn. Mae’n cydnabod y boen y mae wedi’i achosi.”
Gan garcharu Jones am oes, dywedodd Mrs Ustus Jefford y byddai’n rhaid iddo wneud o leiaf 30 mlynedd o garchar cyn y gellid ystyried ei ryddhau.
“Rydych chi’n 53 oed a pha bynnag dymor gofynnol rwy’n ei osod mae’n debygol y byddwch yn treulio’r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o weddill eich bywyd naturiol yn y carchar,” meddai.
“Nid oes gennyf amheuaeth mai eich bwriad wrth ddenu Mr O’Leary i’r cyfarfod hwn oedd ei ladd. Roedd y cynllun gyda’r negeseuon yn llawer rhy gymhleth dim ond ar gyfer cyfarfod lle’r oeddech yn gobeithio codi ofn arno i adael eich gwraig i fod.
“Efallai nad oedd yn gynllun perffaith, a dadleuwyd ar eich rhan fod y ffaith y gallech fod wedi’i gynllunio yn well yn dangos diffyg cynllunio. Yn fy marn i, nid yw’n gwneud hynny.”
Diystyrodd y barnwr honiadau Jones ei fod yn ceisio amddiffyn teulu Mr O’Leary rhag dysgu’r gwirionedd am y berthynas.
“Gweithredoedd llwfr”
“Dywedoch fod hyn yn ddamwain, eich bod wedi mynd i banig,” meddai Mrs Ustus Jefford.
“Fodd bynnag, nid gweithredoedd dyn sydd mewn panig oedd y camau a gymerwyd gennych. Roeddent yn fwriadol ac yn effeithiol.
“Roedden nhw hefyd yn weithredoedd llwfr sydd wedi atal teulu O’Leary rhag cael angladd gyda chorff i’w gladdu – un o elfennau allweddol prosesu eu galar diamheuol.
“Gwnaeth Michael O’Leary rywbeth o’i le – cafodd berthynas gyda gwraig dyn a fu’n ffrind iddo ers blynyddoedd lawer, [ond] nid oedd yn haeddu talu am hynny gyda’i fywyd.”