Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar berchnogion Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd i beidio â gwerthu’r adeilad.
Daw hyn ar ôl i bwyllgor ymddiriedolwyr Tŷ’r Cymry benderfynu cau’r ganolfan Gymraeg yn ardal Cathays.
Mae tenantiaid yr adeilad – gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, UCAC, Plaid Cymru, a chylch meithrin Tŷ’r Cymry – wedi symud allan o’r adeilad ar ôl cael gorchymyn i wneud hynny.
Rhodd “i Gymry Caerdydd” gan Lewis Williams oedd Tŷ’r Cymry yn 1936, ac mae wedi bod yn ganolbwynt i’r iaith Gymraeg yn y brifddinas ers dros wyth deg mlynedd.
‘Hanes pwysig’
“Mae hanes pwysig i Dŷ’r Cymry yn adferiad yr iaith yng Nghaerdydd, a does dim rheswm i hynny ddod i ben,” meddai Bethan Ruth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Rydyn ni’n deall bod cynnal adeilad fel hyn yn bwysau ar griw bach sydd heb newid ers tro byd.
“Ond nid gwerthu’r adeilad a chau’r ganolfan Gymraeg ydi’r ateb – yn hytrach, rydyn ni’n galw ar y perchnogion i basio’r cyfrifoldeb ymlaen i griw newydd fyddai’n gallu ailsefydlu’r lle fel canolfan Gymraeg gyfoes ar gyfer Caerdydd yr unfed ganrif ar hugain.”
‘Cam yn ôl i’r Gymraeg yn y brifddinas’
Ychwanegodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n awyddus i weld datblygiad a buddsoddiad yn y ganolfan.
“Rydyn ni’n sicr bod digon o bobl yng Nghaerdydd fyddai’n barod i gymryd yr awenau er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i Dŷ’r Cymry,” meddai.
“Mae angen datblygu Tŷ’r Cymry yn ofod cymdeithasol newydd ar gyfer yr iaith yng Nghaerdydd – yn sicr mi fyddai cau’r lle yn gam yn ôl i’r Gymraeg yn y brifddinas.”
Un o alwadau Cymdeithas yr Iaith ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesa – yn ei dogfen Mwy na Miliwn – yw creu mil o ofodau Cymraeg newydd ar hyd a lled y wlad.