Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae’r Strategaeth newydd yn nodi polisïau hirdymor y Llywodraeth i reoli llifogydd, yn ogystal â’r mesurau y bydd sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr yn eu rhoi ar waith dros y degawd nesaf.
Yn dilyn y llifogydd eleni, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £4.4m mewn gwaith atgyweirio.
‘Awyddus i Gymru arwain y ffordd’
Wrth lansio’r Strategaeth, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, iddi gael profiad uniongyrchol o effaith ddinistriol y llifogydd dros 3,000 o gartrefi a busnesau ledled y wlad eleni.
“Gan fod y tebygolrwydd y byddwn yn gweld rhagor o’r digwyddiadau tywydd eithafol hyn yn cynyddu, mae angen i ni gryfhau ein dull o reoli’r perygl o lifogydd a’r risg o lifogydd arfordirol a’i addasu er mwyn helpu i gadw pobol yn ddiogel,” meddai.
“Rwy’n awyddus i Gymru arwain y ffordd gyda’r gwaith hwn a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd.
“Mae’r Strategaeth yn nodi sut y byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir wrth i ni geisio diogelu pobol, cartrefi a busnesau rhag perygl cynyddol o lifogydd.
“Rydym yn gwneud newidiadau sylweddol er mwyn helpu i gyflymu ein proses gyflwyno a chyfleu risg yn well. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau lliniaru a mapiau perygl llifogydd newydd.”
Rhan allweddol o’r strategaeth newydd yw sicrhau nad ydi Llywodraeth Cymru yn gwneud camgymeriadau a allai arwain at fwy o berygl i genedlaethau’r dyfodol.
Bydd y Strategaeth newydd yn helpu i atal hyn drwy gysylltu â’r canllawiau cynllunio newydd a gaiff eu cyhoeddi’r flwyddyn nesaf.
‘Cam mawr ymlaen’
Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi cefnogi’r strategaeth.
Disgrifia Martin Buckle, Cadeirydd y Pwyllgor, y strategaeth fel “cam mawr ymlaen o ran darparu’r arweinyddiaeth sydd ei hangen i fynd i’r afael â’r heriau”
“Dangosodd y llifogydd yn gynharach eleni fod yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bobol gyffredin mewn cymunedau a busnesau ledled Cymru, a bod angen cryfhau ein gwydnwch ar unwaith,” meddai.
“Gan fod lefelau’r môr yn cynyddu, mae’r Strategaeth newydd hefyd yn pwysleisio bod angen blaenoriaethu cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer yr hirdymor mewn ardaloedd arfordirol, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd yr arfordir i’n cymunedau, ein busnesau a’r amgylchedd.
“Er ein bod yn croesawu’r ymrwymiad i gymryd camau cynnar, bydd angen i bob parti gydweithio er mwyn sicrhau y gellir rhoi rhaglen aml-flwyddyn effeithiol ar waith ar gyfer y tymor hwy.”