Mae Plaid Cymru’n galw am gyflwyno’r Cynllun Cymorth Swyddi’n gynt na’r disgwyl wrth i Gymru bratoi ar gyfer cyfnod clo dros dro.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym ddydd Gwener (Hydref 23) ac yn para tan ddydd Llun, Tachwedd 9.
Ar drothwy’r cyfnod hwnnw ac wrth i’r cynllun ffyrlo ddod i ben ar Hydref 31, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw am gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr a busnesau.
Bydd y Cynllun Cymorth Swyddi’n cynnig llai o gymorth na’r cynllun ffyrlo mae’n ei ddisodli.
Tra bod ffyrlo yn cynnig 80% o gyflogau gweithwyr, dim ond 66% fydd yn cael ei dalu pe bai angen cau busnesau, a 22% pe bai modd iddyn nhw agor.
Yn ôl Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, hyn a hyn o gefnogaeth all y Trysorlys ei chynnig oherwydd “cyfyngiadau yn amserleni cyflwyno Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi”.
Holi’r Ysgrifennydd Iechyd
“Bydd Cymru’n dechrau ar gyfnod clo ddydd Gwener,” meddai Liz Saville Roberts yn San Steffan.
“Mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau yng ngogledd Lloegr eisoes yn destun mesurau tebyg.
“Mae cyfyngiadau cyfnod clo dros dro yng Nghymru wedi’u teilwra ar gyfer anghenion iechyd Cymru, ond mae cynlluniau cymorth y Trysorlys yn seiliedig ar ystyriaethau gwleidyddol a’r hyn sy’n gwasanaethu de Lloegr orau.
“A fydd e’n ymrwymo i ddod â’r Cynllun Cymorth Swyddi yn ei flaen wyth diwrnod – dim ond wyth diwrnod – a chynyddu lefel y gefnogaeth i’r un lefel â’r cynllun ffyrlo cyntaf, fel y bydd modd i fwy o bobol yng Nghymru fforddio aros yn ddiogel?”
Gwrthod ymrwymo
Wrth ymateb, fe wnaeth Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wrthod ymrwymo i gais Liz Saville Roberts.
Mae Liz Saville Roberts wedi ymateb ers hynny.
“Mae cyfnod clo dros dro yn rhoi’r cyfle i ni brynu mwy o amser i adeiladu system brofi, olrhain ac ynysu wydn,” meddai.
“Ond er mwyn i hynny weithio, rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig chwarae ei rhan wrth roi cefnogaeth ariannol briodol.
“Mae’n codi’r cwestiwn; a fyddai’r Canghellor yn caniatáu i bobol a busnesau yn ne Lloegr fynd heb gefnogaeth bellach pe baen nhw’n wynebu’r fath fesurau?
“Mae hyn yn fater o degwch.
“Mae pobol Cymru, yn briodol felly, yn disgwyl i’w haberth gael ei chefnogi gan gymorth ariannol priodol, felly dw i’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid trywydd.”