Mae Iwerddon ar drothwy un o’r cyfnodau clo llymaf yn Ewrop.
Fe fydd chwe wythnos o gyfyngiadau – yr ail gyfnod clo yn y wlad – yn rhan o gynllun pum cam y llywodraeth i geisio trechu’r coronafeirws.
Bydd y mesurau, sy’n cael eu disgrifio gan y Taoiseach Micheal Martin fel rhai “difrifol iawn, iawn”, yn dod i rym nos fory (nos Fercher, Hydref 21).
Rhybuddia na all y llywodraeth drechu’r feirws ar eu pennau eu hunain.
“Does yna ddim cyfreithiau na phwerau all newid natur y feirws yma,” meddai.
“Mae nifer o bobol wedi gwneud popeth gafodd ei geisio ganddyn nhw. Ond dydy rhai ddim.
“Fel Taoiseach, gofynnaf eto i bawb gymryd y bygythiad hwn o ddifrif.”
Y cyfyngiadau
Bydd y cyfyngiadau newydd yn para tan Ragfyr 1.
Bydd ysgolion a meithrinfeydd yn aros ar agor, ond fydd pobol ddim yn cael cymdeithasu mewn cartrefi na gerddi.
Ond gall pobol fynd i gartref rhywun arall os ydyn nhw’n gofalu amdanyn nhw.
Uchafswm o 25 o bobol fydd yn cael mynd i briodasau, a fydd dim modd bwyta mewn bwytai, caffis na bariau.
Dim ond siopau sy’n gwerthu nwyddau hanfodol fydd yn cael agor.
Mae gofyn i bobol aros yn eu cartrefi oni bai eu bod nhw’n mynd allan i wneud ymarfer corff o fewn pellter o 5km.
Dim ond gweithwyr allweddol all fynd i’r gweithle, a hynny’n cynnwys adeiladwyr a gweithgynhyrchwyr.
Mae disgwyl i’r llywodraeth gyflwyno dirwyon pe bai pobol yn torri’r rheolau hyn, ond bydd cymorth ar gael i fusnesau fel eu bod nhw’n ymdopi yn ystod y cyfnod clo, a bydd gwasanaeth iechyd meddwl newydd yn cael ei gyflwyno.
Mae Llywodraeth Iwerddon wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â chyflwyno’r cyfyngiadau cyn hyn.