Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd, wedi lansio cronfa newydd gwerth dros £1m i helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws.

Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr, sydd wedi’i lansio heddiw (dydd Mawrth, Hydref 20), yn darparu grantiau o hyd at £300 ar gyfer hanfodion megis bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwyn, neu ddyfeisiau electronig fel gliniaduron i gael mynediad i gymorth a gwasanaethau.

Mae tua 55,300 o bobol yng Nghymru yn cael lwfans gofalwyr ac mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod bron i 40% o ofalwyr yn pryderu ynghylch eu sefyllfa ariannol.

Mae heddiw hefyd yn gweld ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ynghylch cynllun cenedlaethol newydd i ofalwyr.

Bydd yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid i adlewyrchu pob agwedd ar fywyd gofalwr.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r fyddin enfawr, ymroddedig o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd wedi gwneud cymaint i ofalu am eraill yn ystod y pandemig,” meddai Julie Morgan.

“Rwy’n edrych ymlaen at siarad gyda gofalwyr a’u cynrychiolwyr fel rhan o’n hymgynghoriad ar gynllun cenedlaethol newydd.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n gofalu i gyflwyno eu barn.”

Bydd y cymorth ariannol yn cael ei roi drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sydd wedi bod yn gweithio drwy gydol y pandemig i gefnogi gofalwyr di-dâl.

‘Gaeaf heriol iawn’

“Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol a negyddol ar iechyd, llesiant a diogelwch ariannol llawer o ofalwyr,” meddai Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

“Wrth inni nesáu at yr hyn a fydd yn siŵr o fod yn aeaf heriol iawn ar gyfer y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ein cymunedau a phobl ar draws Cymru, rydym yn falch iawn bod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’n Partneriaid Rhwydweithio yn gallu gweithredu’n gyflym i sicrhau’r grantiau hanfodol hyn ar gyfer y rhai sydd fwyaf o’u hangen.

“Rydym yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr sy’n dioddef caledi ariannol ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod yr holl ofalwyr yn cael y gydnabyddiaeth a’r cymorth y maen nhw eu hangen.”