Mae dynes 29 oed wedi’i chyhuddo o lofruddio warden eglwys 88 oed ac o geisio llofruddio tri pherson arall wedi digwyddiad ym mhentref Penygraig yn y Rhondda Ddydd Mawrth, Mai 5.
Fe fydd Zara Anne Radcliffe o’r Porth yn y Rhondda yn mynd gerbron ynadon Caerdydd bore ma (Dydd Iau, Mai 7).
Mae hi wedi’i chyhuddo o drywanu John Rees, 88, o Drealaw yn dilyn digwyddiad mewn siop Co-op ym Mhenygraig.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod Zara Anne Radcliffe hefyd wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson arall gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae un dyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty a dau berson arall wedi cael anafiadau sydd ddim yn bygwth eu bywydau. Credir bod un o’r rhai gafodd eu hanafu yn weithiwr i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG).
“Uchel ei barch”
Roedd John Rees yn byw yn Nhrealaw gyda’i wraig Eunice, ac yn warden eglwys.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu ei fod yn “uchel ei barch yn y gymuned. Roedd yn falch iawn o’i deulu ac yn falch o fod yn Gymro ac yn ymroddedig i’w eglwys. Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”