Dyw prynu castell neidio, casglu ci bach na mynd ‘am sbin’ ddim yn rhesymau dilys dros fod allan yn ystod argyfwng firws y corona, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Cyn penwythnos Gŵyl y Banc, mae Heddlu Dyfed-Powys yn atgoffa’r cyhoedd bod cyfyngiadau’r Llywodraeth o ran teithio yn parhau ar waith ledled Cymru.
Fel rhan o ymdrechion parhaus i ddiogelu iechyd y cyhoedd, bydd swyddogion yn parhau i fonitro teithio ar draws ardal yr heddlu drwy wiriadau ar ochr y ffordd a phatrolau.
Dywedodd yr Arolygydd Andy Williams bod y mwyafrif llethol o bobl wedi gwneud “ymdrechion eithriadol” i gydymffurfio â’r rheolau newydd dros y saith wythnos diwethaf.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i gadw mewn cysylltiad â’n cymunedau, addysgu gyrwyr ac annog pobl i wneud eu rhan drwy aros adref ac achub bywydau,” meddai.
“Ond yn anffodus, rydym wedi parhau i weld rhai unigolion yn torri’r rheolau drwy deithio i ail gartrefi a llety gwyliau eraill, gan yrru cannoedd o filltiroedd drwy ddefnyddio’r esgus eu bod yn ceisio cael ymarfer corff, ac mewn rhai achosion yn ceisio manteisio ar ffyrdd tawelach i gyflawni trosedd.”
Teithio o bell
Er bod y rhan fwyaf o bobl wedi gwrando ar ganllawiau’r Llywodraeth yn gofyn i bobl aros gartref, nid yw pawb wedi gwneud hynny – gyda’u rhesymau’n amrywio o “annoeth i ryfedd” yn ôl yr heddlu.
Mae’r rhain wedi cynnwys pobl sy’n gyrru i ranbarth Dyfed-Powys o Lundain, Luton, Bryste a thu hwnt i brynu neu edrych ar gŵn, gydag un dyn o Fanceinion yn dweud wrth swyddogion ’na fyddai’n gi bach mwyach’ pe bai’n aros nes bod lockdown ar ben.
Ymhlith y rhai a groesodd y ffin am resymau nad oedd yn hanfodol oedd
- cwpl o Gaerfaddon a oedd am gerdded Pen y Fan
- triawd a deithiodd o Gaerloyw a Kettering i wersylla ym Mannau Brycheiniog
- dau ddyn yn Aberhonddu a yrrodd o Derby i gasglu tegan remote controlled – cafodd y gyrrwr ei arestio hefyd am yrru cyffuriau.
A mwy…
- Cafodd dau ddyn ym Mhowys ddirwy ar ôl honni eu bod wedi delifro bwyd i berthynas yn y gogledd… er nad oedden nhw’n gwybod y cyfeiriad.
- Gadawyd cwpwl yn eithaf fflat wedi i swyddogion ddweud wrthyn nhw fod taith 100 milltir i Sir Benfro i gasglu castell neidio yr oedden nhw wedi ei brynu ar Facebook ddim yn cael ei ystyried yn ‘deithio hanfodol’.
- Rhoddwyd gair o gyngor hefyd i dri o bobl Sir Benfro a oedd yn honni nad oedden nhw yn gwybod bod y wlad ar lockdown am nad oedden nhw yn gwylio’r newyddion.
Dywedodd yr Arolygydd Andy Williams: “Mae’n hanfodol bod pawb, cyhyd ag y bydd y cyfyngiadau yn parhau, yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd ac yn sicrhau mai dim ond pan fydd hynny’n gwbl angenrheidiol y byddan nhw yn teithio.”