Mae cwest i farwolaeth dyn 88 oed, yr honnir iddo gael ei drywanu i farwolaeth mewn siop Co-op yn y Rhondda, wedi cael ei agor a’i ohirio.
Bu farw John Rees, warden eglwys o Donypandy, ar ôl iddo gael anafiadau difrifol i’w wyneb mewn ymosodiad arno wrth iddo siopa yn y Co-op ym mhentref Penygraig yn y Rhondda.
Mae Zara Anne Radcliffe, 29, wedi’i chyhuddo o lofruddio John Rees yn ogystal â chyhuddiadau o geisio llofruddio tri o bobl eraill yn y digwyddiad ar Fai 5.
Cafodd cwest John Rees ei agor a’i ohirio heddiw (Dydd Iau, Mai 14) nes bod y camau troseddol yn erbyn Zara Anne Radcliffe wedi cael eu cwblhau.
Dywedodd swyddog y crwner, Lauren Howitt, wrth y cwest ym Mhontypridd bod John Rees yn siopa tra bod ei wraig wedi aros yn eu car tu allan i’r siop.
“Tra roedd yn y siop fe ymosodwyd arno gan ddynes nad oedd yn ei hadnabod. Yn anffodus bu farw yn y lleoliad o ganlyniad i’w anafiadau.”
Clywodd y gwrandawiad bod y patholegydd Dr Richard Jones o Ysbyty Athrofaol Cymru wedi dweud bod John Rees wedi cael anafiadau difrifol i’w wyneb.
Nid oedd Zara Anne Radcliffe o’r Porth wedi cyflwyno ple yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd yn gynharach yr wythnos hon ac mae hi’n cael ei chadw yn y ddalfa. Mae disgwyl i’r achos yn ei herbyn gael ei gynnal ym mis Hydref.