Mae’r Gweinidog Iechyd wedi anfon cwyn at bapur The Sun am gyhoeddi stori amdano’n bwyta wrth fwrdd picnic ym Mae Caerdydd.

Roedd y stori yn cynnwys llun o Vaughan Gething gyda’i wraig a’i fab pump oed, ac mae’r papur yn ei gyhuddo o dorri rheolau cyfyngiadau Covid-19.

Hyd yma mae’r gweinidog wedi gwrthod yr honiad o ragrith, ac mae wedi mynd mynnu mai cymryd saib byr am fwyd oedd pan gafodd y llun ei gymryd.

Ac wrth siarad ar Radio Wales Breakfast ar y BBC y bore yma (Dydd Iau, Mai 14), fe gadarnhaodd ei fod bellach wedi gwneud cwyn, a’i fod yn aros am ymateb.

“Dw i’n credu bod hynny’n chwerthinllyd,” meddai pan ofynwyd iddo a ddylai fod wedi rhoi ei hun yn y fath sefyllfa.

“Yn ystod cyfnod pan mae pobol yn marw bob dydd, dyw creu’r fath ddryswch a malais am hyn ddim yn helpu unrhyw un.

“Ac os ydy’r rheolau yna i’r cyhoedd, mae’n rhaid i fi eu dilyn. A dyna’n union dw i wedi ei wneud.”

Dan gyfyngiadau covid-19 Llywodraeth Cymru, mae pobol yn medru gadael eu tai am lond llaw o resymau yn unig – gan gynnwys ymarfer corff, gweithio, a siopa am ddeunydd hanfodol.

Profion gwrthgyrff

Mae bellach wedi dod i’r amlwg bod profion gwrthgyrff – profion sydd yn dangos os ydy person eisoes wedi cael eu heintio gan covid-19 yn y gorffennol – wedi eu cymeradwyo gan swyddogion iechyd yn Lloegr.

Y gred yw bod pobol sydd eisoes wedi dal yr haint gydag imiwnedd iddi, ac o ran cymeradwyo’r profion mae Cymru ar ei hôl hi.

Wrth siarad y bore yma, rhybuddiodd Vaughan Gething bod yn rhaid i lywodraethau’r Deyrnas Unedig gymryd gofal wrth gyflwyno’r profion yma.

“Mi allwn ddiweddu fyny â sefyllfa lle mae pob un o’r pedair gwlad yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, a byddai hynny wir ddim yn helpu [y sefyllfa],” meddai gan alw am ddigon o gyd-drafod yn y dyfodol.