Mae prawf i ddarganfod os ydy pobl wedi cael eu heintio gyda’r coronafeirws yn y gorffennol wedi cael ei gymeradwyo gan swyddogion iechyd ac mae’n debyg mai gweithwyr rheng flaen fydd y cyntaf i gael y prawf.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod y prawf, sy’n profi am wrthgyrff (antibodies) yn llif y gwaed, yn “ddatblygiad pwysig iawn”. Mae’r prawf wedi cael ei datblygu gan gwmni fferyllol Roche yn y Swistir.

Mae’r prawf yn adnabod 100% o’r achosion lle mae rhywun wedi cael y coronafeirws yn y gorffennol.

Yn ôl arbenigwyr mae’r rhai sydd wedi cael Covid-19 wedi datblygu rhywfaint o imiwnedd yn erbyn y firws gan olygu y gallai fod yn ddefnyddiol wrth lacio’r cyfyngiadau.

Dywedodd y gweinidog iechyd Edward Argar bod y Llywodraeth yn bwriadu cynnal y profion ar weithwyr iechyd rheng flaen yn gyntaf, gweithwyr cymdeithasol ac yna yn ehangach.

Ond fe bwysleisiodd nad oes modd i’r cyhoedd gael gafael ar y prawf ar hyn o bryd.