Mae cwmni o Gymru yn bwriadu cynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau bob dydd er mwyn helpu’r ymdrech yn erbyn y coronafeirws.
Mae cwmni Hardshell bellach wedi cael gafael ar beiriannau i greu masgiau llawfeddygol, ac mae’n bwriadu creu ffatri newydd yng Nghaerdydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad, ac mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, wedi ei alw’n “wirioneddol ryfeddol”.
“Gwarchod bywydau”
“Roedd yn benderfyniad pwysig inni ddefnyddio’n harbenigedd a mynd ati mewn ffordd fedrus i greu mwy o gapasiti i gynhyrchu masgiau yn y Deyrnas Unedig,” meddai Prif Swyddog Gweithredol Hardshell, Anil Kant.
“A hynny, er mwyn helpu gwarchod bywydau cleifion, staff gofal iechyd a gweithwyr allweddol.”
Bydd y cwmni yn cynhyrchu rhwng 250,000 a miliwn o fasgiau’r dydd, a byddan nhw’n cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ynghyd a mentrau eraill.