Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi galw ar lywodraethwyr i ail-agor ysgolion yn yr Unol Daleithiau gafodd eu cau yn sgil y coronafeirws.
Nid dyma’r tro cyntaf i Donald Trump fynd yn groes i gyngor yr arbenigwr ar afiechydon heintus, Dr Anthony Fauci, sydd wedi rhybuddio yn erbyn anfon disgyblion yn ôl i’r dosbarth yn rhy fuan.
Mewn cynhadledd newyddion yn y Tŷ Gwyn dywedodd Donald Trump: “Mae’n rhaid i’n gwlad ni ddychwelyd [i normalrwydd] mor fuan â phosib. A dw i ddim yn ystyried bod ein gwlad ni’n gwneud hynny os yw’r ysgolion ynghau.”
Mae Dr Fauci wedi rhybuddio bod angen bod yn wyliadwrus cyn ail-agor ysgolion ond dywedodd y byddai’r penderfyniadau yn debygol o fod yn wahanol o un rhanbarth i’r llall.
Yn ôl yr Arlywydd Trump mae’r coronafeirws wedi “cael ychydig iawn o effaith ar bobl ifanc”, er bod pryder am achosion cynyddol o syndrom newydd sydd wedi datblygu ymhlith pobl ifanc sy’n gysylltiedig â’r firws.
Mae Donald Trump a Dr Fauci wedi gwrthdaro a’i gilydd sawl tro am y ffordd ymlaen wrth fynd i’r afael a’r coronafeirws.