Mae Boris Johnson yn gwneud “camgymeriad mawr” wrth ddod â’r trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd i ben, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Cyhoeddodd Boris Johnson ddoe bod angen i Brydain fod yn barod am sefyllfa o fod heb gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd o fis Ionawr ymlaen, gan ddweud nad oedd sail i ragor o drafodaethau.
Dywed Mark Drakeford fod agwedd y Prif Weinidog yn gwbl anghyfrifol.
“Mae Boris Johnson yn gamblo gyda swyddi a diogelwch Prydain,” meddai.
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y CBI, a phrif weithredwr y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron hefyd yn rhybuddio y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn cael effaith trychinebus ar swyddi ym mhob rhan o Brydain.
Er bod llywodraeth Prydain wedi dweud wrth brif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, i beidio â theithio i Brydain yr wythnos nesaf, fe fydd rhywfaint o drafod yn parhau rhwng y ddwy ochr.
Dywed Boris Johnson os nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn fodlon rhoi cytundeb sy’n debyg i’r hyn sydd gan Canada i Brydain, yna y dylid syrthio’n ôl ar y math o berthynas sydd rhwng Awstralia a’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn gyfystyr â dim cytundeb i bob pwrpas.