Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl cyfres o ladradau o dai yng Nghaernarfon nos Iau.

Roedd lladron wedi torri i mewn i amryw o dai yn ardal Maesincla o’r dref a dwyn nifer o eitemau.

“Dw i’n awyddus i glywed gan unhyw un sy’n gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y lladradau hyn neu a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus yn yr ardal,” meddai’r Ditectif Ringyll Richard Griffith o CID Caernarfon. “Dw i’n gofyn hefyd i bobl edrych ar eu camerâu cylch cyfyng preifat neu gamerâu cerbyd.

“Mae hefyd yn werth atgoffa pob perchennog tŷ i fod yn wyliadwrus bob amser a sicrhau bod eich eiddo bob amser yn cael ei gloi a’i ddiogelu ac os gwelwch unrhyw ymddygiad amheus rhowch wybod i ni ar unwaith”.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio CID Caernarfon ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 20000626110.