Gydag ychydig dros bythefnos i fynd at etholiad arlywyddol America, mae mwy na 22 miliwn o Americanwyr eisoes wedi bwrw eu pleidlais.
Mae hyn ddeg gwaith gymaint ag ar yr un adeg yn etholiad 2016, ac mae’n gyfystyr â 16% o’r holl bleidleisiau a gafodd eu bwrw yn yr etholiad hwnnw.
Mae wedi arwain arbenigwyr gwleidyddol i ddarogan y troad allan uchaf ers 1908 mewn etholiad arlywyddol yn y wlad.
Hyd yma, mae llawer mwy o Ddemocratiaid nag o Weriniaethwyr wedi pleidleisio, er nad yw hyn ynddo’i hun yn dangos ffordd mae’r gwynt yn chwythu gan fod disgwyl i’r mwyafrif o Weriniaethwyr bleidleisio ar y diwrnod ei hun, Tachwedd 3. Mae’n golygu mantais dactegol i’r Democratiaid, fodd bynnag, gan y bydd yn rhoi cyfle iddyn nhw chwilio am gefnogwyr llai sicr o hyn tan yr etholiad.
Mae’r arolygon barn i gyd yn dangos Joe Biden ymhell ar y blaen i Donald Trump yn genedlaethol, ond fe fydd tynged y ddau yn dibynnu ar beth fydd yn digwydd yn y taleithiau ymylol, a gafodd eu hennill o drwch blewyn gan Trump yn 2016.