Mae’r Jacinda Ardern wedi cael ei hailethol yn brif weinidog Seland Newydd mewn buddugoliaeth ysgubol yn etholiad cyffredinol y wlad.

Ar ôl i’r mwyafrif o’r pleidleisiau gael eu cyfrif, roedd plaid lafur Jacinda Ardern wedi ennill 49% o’r bleidlais, o gymharu â 27% i’r brif wrthblaid, y Blaid Genedlaethol.

O dan system gynrychioliaeth gyfrannol y wlad, does yr un blaid wedi ennill mwyafrif llwyr ers i’r system gael ei chyflwyno 24 mlynedd yn ôl. Mae’n debygol iawn fod Jacinda Ardern wedi llwyddo i wneud hyn y tro yma.

Mae Jacinda Ardern wedi cael croeso gwresog ledled y wlad drwy gydol yr ymgyrch etholiad, ac mae ei phoblogrwydd i’w briodoli i raddau helaeth i’w llwyddiant yn erbyn y coronafeirws.

Wrth ymateb i’w buddugoliaeth, meddai:

“Nid etholiad cyffredin oedd hwn, ac nid yw’n amser cyffredin. Mae wedi bod yn llawn o ansicrwydd a gofid, a’n nod ni oedd cynnig atebion a gwellâd.”

Addawodd beidio â chymryd ei chefnogwyr newydd yn ganiataol, ac y byddai’n llywodraethu dros holl ddinasyddion Seland Newydd.

“Rydym yn byw mewn byd sydd wedi ei bolareiddio fwyfwy, lle mae pobl wedi colli’r gallu i weld barn rhywun arall,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod pobl Seland Newydd wedi dangos yn yr etholiad yma nad dyna pwy ydym.”