Cafodd athro ei lofruddio mewn ymosodiad erchyll gerllaw Paris ddoe, dydd Gwener. Roedd ar ei ffordd adref o’r ysgol pan wnaeth ymosodwr dorri ei ben ymaith â chyllell.
Yn fuan wedyn, cafodd dyn ifanc 18 oed o Chechnya ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Mae naw o aelodau eraill teulu’r dyn ifanc wedi cael eu harestio hefyd.
Roedd yr athro wedi derbyn bygythiadau tua 10 diwrnod yn ôl ar ôl iddo fod yn trafod darluniau o’r proffwyd Mohamed gyda’i ddisgyblion, ac mae’r heddlu’n credu bod yr ymosodiad yn ymwneud ag eithafiaeth Islamaidd.
Gweriniaeth Islamaidd sy’n rhan o dde Rwsia yw Chechnya, a ddioddefodd ddau ryfel yn yr 1990 a arweiniodd at don o allfudo oddi yno i orllewin Ewrop. Mae rhai aelodau o’r gymuned Chechen yn Ffrainc wedi ymwneud â thrais yn achlysurol dros y blynyddoedd.