Mae cyfyngiadau newydd sy’n atal pobl o ardaloedd o Loegr lle mae cyfradd achosion coronfeirws yn uchel rhag teithio i Gymru wedi dod i rym ers chwech o’r gloch neithiwr, nos Wener.

Roedd pobl sy’n byw mewn ardaloedd o Gymru lle mae’r haint yn uchel eisoes yn cael eu gwahardd rhag gadael eu siroedd, ond roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi gwrthod gorfodi rheolau tebyg mewn lleoedd cyfatebol yn Lloegr.

Fe fydd y rheoliadau newydd yn helpu sicrhau bod ardaloedd o Gymru lle mae’r achosion coronafeirws yn dal yn gymharol isel yn cael gwarchod eu hunain rhag teithwyr o unrhyw rannau o’r Deyrnas Unedig lle mae nifer uchel o achosion.

“Rydym yn cyflwyno’r rheoliadau teithio newydd hyn i’w gwneud yn glir na chaiff pobl sy’n byw mewn ardaloedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae lefelau’r coronafeirws yn uchel deithio i rannau o Gymru lle mae nifer yr achosion yn isel,” meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i gadw’r cymunedau lle mae lefelau’r haint yn isel mor ddiogel â phosib, a bydd y cyfyngiad synhwyrol ac angenrheidiol hwn yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd trefol, poblog iawn i ardaloedd llai poblog.”

Mae heddluoedd Cymru wedi ymrwymo i helpu sicrhau bod rheoliadau Llywodraeth Cymru’n cael eu cadw.

“Byddwn yn targedu’r rhai nad ydyn nhw’n cadw at y rheolau,” meddai Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru.

“Ni ddylai pobl fod yn teithio rhwng ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol heb esgus rhesymol – a bydd hyn yn cynnwys y rheini sy’n teithio o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig sydd â chyfraddau trosglwyddo uchel.”

Ychwanegodd fod yr un peth yn wir am deithio allan o Gymru hefyd:

“Os ydych chi’n byw yng Nghymru mewn ardal heb gyfyngiadau, ni chewch adael Cymru i deithio i ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig sydd â chyfraddau trosglwyddo uchel heb reswm digonol.”