Mae disgwyl i ddyn 53 oed, oedd wedi saethu’n farw cariad ei wraig yn Sir Gaerfyrddin, gael ei ddedfrydu heddiw (dydd Llun, Hydref 19).

Roedd Andrew Jones, 53, wedi darganfod bod Michael O’Leary, 55, yn cael perthynas gyda’i wraig, Rhiannon, 51, ac wedi cynllwynio i’w ladd.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod yr adeiladwr o Gaerfyrddin wedi saethu Michael O’Leary yn Fferm Cyncoed ger Cwmffrwd ar Ionawr 27 eleni. Roedd wedi ceisio gwneud iddo edrych fel ei fod wedi lladd ei hun, gan losgi gweddillion ei gorff.

Roedd Andrew Jones wedi gwadu ei lofruddio ond fe’i cafwyd yn euog yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe.

Mae disgwyl iddo gael dedfryd o garchar am oes ac mae’r barnwr Mrs Ustus Jefford wedi dweud y bydd yn gosod cyfnod isafswm dan glo cyn iddo allu gwneud cais am barôl.