Fe fydd dyn 21 oed yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Llun, Hydref 19) ar gyhuddiad o lofruddio a cheisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Wener.

Bu farw Michael Gayle, 54, yn y fan a’r lle yn dilyn ymosodiad honedig yn ardal Llaneirwg, er gwaetha ymdrechion aelodau o’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys i’w achub.

Mae dynes 50 oed, a gafodd ei hanafu’n ddifrifol, yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ond mae’n debyg nad yw ei hanafiadau yn rai sy’n bygwth ei bywyd.

Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad bod Garvey Gayle, 21 oed, wedi’i gyhuddo o lofruddio Michael Gayle ac o geisio llofruddio’r ddynes.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.