Mae Plaid Cymru yn galw am bythefnos o gyfnod clo er mwyn mynd i’r afael â gwendidau’r system prawf, olrhain ac ynysu.

Dywedodd y blaid y gallai cyfnod clo o’r fath ostwng y rhif R yn ogystal â gosod sylfaeni a strategaeth i gael gwared ar y coronafeirws.

Nawr yw’r amser i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd (GIG) ac achub bywydau, meddai Plaid Cymru.

“Rhaid i’r Prif Weinidog gyhoeddi cynllun manwl ar frys i fynd i’r afael ag annigonolrwydd yr ymateb cyfredol, gan gynnwys cynigion fel y rhai y mae Plaid Cymru yn eu cynnig heddiw,” meddai Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal.

“Maent yn cynnwys ystod o fesurau i wella ein system olrhain ac ynysu, i ddiogelu gweithleoedd, ac i sicrhau cefnogaeth ariannol ddigonol i fusnesau a’u gweithwyr.

“Yn sgil y cyngor gan SAGE a’r nifer uchaf erioed o achosion coronafeirws yng Nghymru’r wythnos diwethaf, mae’n rhaid cael cyfyngiadau pellach.

“Rhaid i’r camau a gymerir nawr wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gostwng y rhif R ac arbed bywydau yn y pen draw.”