Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Hydref 19) a fydd cyfnod clo byr a llym yn cael ei gyflwyno yng Nghymru er mwyn rheoli lledaeniad y coronafeirws.

Dywedodd Mark Drakeford wythnos ddiwethaf nad oedd y cyfyngiadau lleol sydd mewn grym ar draws 17 ardal yng Nghymru – sy’n effeithio mwy na 2.3 miliwn o bobl – wedi arafu lledaeniad y firws yn ddigonol.

Roedd gwaharddiad sy’n atal pobol o ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig, sydd â chyfraddau uchel o’r coronafeirws, rhag teithio i Gymru, wedi dod i rym ddydd Gwener (Hydref 16).

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae’r mesurau wedi llwyddo i reoli’r firws i raddau “serch hynny, mae ’na gonsensws bod angen i ni gyflwyno mesurau gwahanol i ymateb i’r firws wrth iddo barhau i ledaenu ar draws Cymru yn gynt yn ystod yr hydref a’r gaeaf sydd o’n blaenau.”

Mae gweinidogion wedi bod yn cynnal nifer o gyfarfodydd dros y penwythnos gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, gwyddonwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus er mwyn ystyried eu cyngor a’r posibilrwydd o gyflwyno mesurau “clo dros dro” i reoli’r firws, meddai’r llefarydd.

Mae disgwyl i’r Cabinet gwrdd bore ma i wneud penderfyniad terfynol.

“Annerbyniol”

Ond mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu Mark Drakeford yn dilyn adroddiadau bod llythyr wedi cael ei ryddhau sy’n datgelu bod penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud ynghyd a manylion y cyfnod clo.

Mae’r llythyr yn datgelu y bydd y cyfnod clo yn dechrau am 6yh ar Hydref 23 hyd at Tachwedd 9 a bydd yn golygu bod tafarndai, bwytai, a siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau angenrheidiol, yn cau.

“Mae hyn yn annerbyniol. Fe ddylen nhw nawr ddod i’r Senedd ddydd Llun i wneud datganiad ac esbonio hynny, ac esbonio beth yw eu cynlluniau.

“Mae’n annerbyniol eu bod nhw’n briffio sefydliadau cyn dod i’r Senedd i wneud datganiad,” meddai Paul Davies.

Ychwanegodd na allen nhw gefnogi cyfnod clo dros dro nes “ein bod wedi gweld y manylion.”

Ac yn ôl Siân Gwenllian o Blaid Cymru mae cyfnod clo cenedlaethol “yn anffodus, yn angenrheidiol” ond mae wedi beirniadu’r modd mae’r wybodaeth wedi cael ei datgelu.

“Ry’n ni’n bryderus am yr oedi cyn gwneud penderfyniad a chyfathrebu hynny i bobl a busnesau yng Nghymru,” meddai.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu ei chynlluniau ar gyfer cyfnod clo dros dro cenedlaethol ar frys drwy wneud datganiad fore Llun fan bellaf.”

Yn y cyfamser fe fu 950 o achosion pellach o Covid-19 yng Nghymru gan ddod a nifer yr achosion i 35,628. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod tair marwolaeth bellach wedi cael eu hadrodd gyda nifer y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn codi i 1,711 yng Nghymru.