Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi beirniadu diffyg cefnogaeth Llywodraeth Prydain i gynnal swyddi a gwarchod busnesau ar drothwy cyfnod clo cenedlaethol fydd yn para pythefnos.

Mae Llywodraeth Cymru’n galw ar Lywodraeth Prydain i gynnig mwy o gefnogaeth ar drothwy’r cyfnod clo, wrth i’r cynllun saib swyddi, neu ffyrlo, ddod i ben ar Hydref 31.

Yn hytrach, fe fydd Cynllun Cefnogi Swyddi Llywodraeth Prydain yn dod i rym, lle bydd y llywodraeth yn talu 67% o gyflogau hyd at £2,100 y mis ar gyfer pob gweithiwr.

Ond bydd rhaid bod gweithwyr wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am wythnos cyn y bydd modd gwneud cais am gymorth, a fydd dim rhaid i gyflogwyr gyfrannu tuag at eu cyflogau.

Yn ôl y cynllun ffyrlo, gall gweithwyr dderbyn hyd at 80% o’u cyflogau – 20% gan eu cyflogwyr a 60% gan y llywodraeth.

Yn ôl Vaughan Gething, mae angen “pecyn mwy sicr a hael” o gefnogaeth.

‘Ystod o sgyrsiau’

Yr awgrym ar hyn o bryd yw y bydd cyfnod clo cenedlaethol yn dod i rym ar Hydref 23 ac yn para tan Dachwedd 9.

Ond yn ôl Vaughan Gething, does dim penderfyniad terfynol eto, ac mae “ystod o sgyrsiau” ar y gweill.

“Byddai’n eithriadol pe na baen ni’n cynnal ystod o sgyrsiau yng Nghymru a hefyd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

“Rhan o’r her yw y bydd cefnogaeth i swyddi a busnesau’n newid ar Dachwedd 1 ac fe fydd yn gynllun llai hael ac ar gael i fusnesau sy’n cael eu gorfodi’n gyfreithiol i gau yn unig.

“Mae’n ffaith fod y cynllun cefnogaeth newydd fydd ar gael o Dachwedd 1 yn llai hael na’r cynllun ffyrlo.

“Dyna’r realiti y mae’n rhaid i ni ymdrin â hi, tra hefyd yn ceisio dadlau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod angen pecyn mwy sicr a mwy hael os ydyn ni am gael yr effaith rydyn ni ei heisiau o ran unrhyw fath o ymrraeth genedlaethol i leihau cyfraddau ymlediad tra hefyd yn gwarchod bywoliaethau pobol cyhyd â phosib.”