Mae’r Annibynwyr wedi ysgrifennu at Dŷ’r Arglwyddi i fynegi eu pryder ynghylch effaith Bil y Farchnad Fewnol ar ddatganoli yng Nghymru.

Bydd ail ddarlleniad o’r Bil yfory (dydd Llun, Hydref 19) a dydd Mawrth (Hydref 20), ac mae’r enwad yn galw ar yr Arglwyddi i wrthwynebu’r “ymosodiad mwyaf erioed ar ddatganoli”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ofni y gallai gweithredu’r Bil niweidio economi, amgylchedd, safonau bwyd a lles anifeiliaid yng Nghymru ac y byddai trosglwyddo’r grym tros wariant mawr o’r Senedd yng Nghaerdydd i weinidogion Llywodraeth Prydain yn “gam annemocrataidd”.

Llythyr

Yn eu llythyr, dywed yr Annibynwyr fod “cynnwys y Bil, a’r modd y cafodd ei gyflwyno, yn dirmygu ac yn diystyru hawliau democrataidd ein cenedl”.

Maen nhw’n dweud bod yr hawliau hynny wedi’u hennill “trwy ymgyrchu hir a phleidlais y mwyafrif mewn dau refferendwm”.

“Cytunwn â’r farn a fynegwyd mai’r cam hwn i ganoli pŵer yn San Steffan yw’r ymosodiad mwyaf ar ddatganoli ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl,” meddai’r llythyr wedyn.

“Ystyriwn fod trosglwyddo pwerau gwario ar seilwaith, datblygu economaidd, diwylliant, chwaraeon, a chefnogaeth ar gyfer cyfleoedd addysgol a hyfforddiant, i ddwylo Gweinidogion llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gam annemocrataidd.

“Dylid cadw’r grym dros y fath wariant, y dewisiadau a’r penderfyniadau, yma yng Nghymru.

“Ofnwn y gallai’r Bil gael effaith andwyol ar les a ffyniant ein pobol, safonau bwyd a lles anifeiliaid, a dyfodol yr amgylchedd.

“Er enghraifft, fe allai llywodraeth y DU gytuno i ostwng safonau cynhyrchu bwyd yn Lloegr er mwyn cynhyrchu bwyd yn rhatach.

“Gallai hynny arwain at foddi’r farchnad yng Nghymru, lle byddai’r safonau’n dal yn uwch, gyda chanlyniadau dinistriol i amaethwyr Cymru.

“Byddai caniatáu mewnforio bwyd rhatach o wledydd eraill sydd â safonau’n is, a ninnau yng Nghymru heb unrhyw lais yn y mater, hefyd yn cael yr un effaith ddifrodol.

“Fel y gwyddoch, fe fydd Ail Ddarlleniad y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi ar Hydref 19.

“Fe wyddoch hefyd, mae’n siŵr, bod anniddigrwydd mawr ynglŷn â’r modd y cafodd y Bil yma ei ruthro drwy Tŷ’r Cyffredin, heb ymgynghoriad gyda’r llywodraethau datganoledig.

“Erfyniwn arnoch, gyda’r parch pennaf, ar yr awr hwyr hon, i roi llais yn Nhŷ’r Arglwyddi i’r cam mawr sy’n cael ei wneud â’n cenedl.”