Mae cyd-arweinydd un o bleidiau gwleidyddol Seland Newydd wedi cael ei lambastio gan newyddiadurwraig yn ystod cyfweliad byw ar y teledu.

Roedd Jami-Lee Ross, cyd-arweinydd plaid Advance NZ, yn cael ei gyfweld gan Tova O’Brien, golygydd gwleidyddol Newshub pan ddigwyddodd y sgwrs danllyd yn fyw ar yr awyr.

Roedd hi’n ei gyhuddo o “godi ofn a hysteria” yn ystod ymgyrch etholiadol y blaid.

Ers sefydlu’r plaid, mae sawl aelod blaenllaw wedi gwneud honiadau ffals am gynlluniau i gyflwyno brechlyn coronafeirws gorfodol, yn ogystal â chysylltu technoleg 5G ag achosion o ganser.

Ddeuddydd cyn yr etholiad, fe wnaeth Facebook ddileu tudalen y blaid am gamarwain y cyhoedd.

Enillodd y blaid 0.9% o’r bleidlais yn unig yn ystod yr etholiad.

Ar ôl iddo fe ddweud bod ei blaid “wedi rhoi cynnig da arni” yn yr etholiad, gofynnodd Tova O’Brien a oedd e’n difaru ei ran mewn cyhoeddi gwybodaeth er mwyn camarwain etholwyr.

“Roeddech chi’n gwybod yn union beth roeddech chi’n ei wneud,” meddai wedyn.

“Roeddech chi’n creu ofn a hysteria ymhlith cymunedau bregus.”

Fe geisiodd e ateb drwy ddweud bod cyfraddau’r coronafeirws yn debyg i’r ffliw tymhorol, ond mae hynny wedi cael ei wrthbrofi gan wyddonwyr.

“Dw i ddim eisiau clywed dim o’r rwtsh yna,” meddai’r newyddiadurwraig wrtho.

Gofynnodd hi iddo fe wedyn pam ei fod e wedi camu’n ôl o’r etholiad yn Botany er mai fe oedd yr aelod seneddol.

“Ro’n i eisiau canolbwyntio ar yr ymgyrch genedlaethol gydag Advance New Zealand,” meddai, cyn ychwanegu bod gan y blaid 62 o ymgeiswyr newydd.

Honnodd wedyn y byddai wedi cipio “cymaint o’r bleidlais” oddi ar ei wrthwynebwyr fel y byddai Llafur wedi ennill y sedd.

“Rwyt ti’n breuddwydio, mêt,” meddai hithau wrtho.