Mae Siân Gwenllian, prif chwip a threfnydd cysgodol Plaid Cymru, wedi mynegi “pryder” ar ôl i lythyr ddod i’r amlwg yn amlinellu manylion cyfnod clo cenedlaethol.

Bydd y camau’n dod i rym ddydd Gwener (Hydref 23) ac yn para 17 diwrnod.

Yn ôl Siân Gwenllian, mae’n “anffodus iawn” fod angen cymryd camau o’r fath er mwyn ceisio rheoli’r coronafeirws.

“Ar sail y dystiolaeth rydyn ni wedi’i gweld, rydyn ni wedi dweud droeon dros yr wythnosau diwethaf fod yr angen, yn anffodus iawn, wedi dod am gyfnod clo clec cenedlaethol i reoli lledaeniad y Coronafeirws,” meddai mewn datganiad.

“Pryderwn am yr oedi yn gwneud y penderfyniad hwnnw ac yn ei gyfathrebu i bobol a busnesau Cymru.

“Mae’n ddigon dealladwy y byddai Llywodraeth Cymru am roi rhagrybudd i randdeiliaid o’r trywydd maen nhw’n ei ddilyn i roi amser iddyn nhw baratoi, ond mae’r diffyg eglurder yn y cyfathrebu yn sgil yr wybodaeth dameidiog sydd wedi bod ar led yn y wasg ac mewn mannau eraill dros y penwythnos yn bryderus.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu ei chynlluniau ar gyfer cyfnod clo clec cenedlaethol ar frys drwy ddatganiad gweinidogol fore Llun fan bellaf.

“Rydyn ni wedi rhannu egwyddorion pwysig gyda’r llywodraeth y byddai’n rhaid bod wrth wraidd unrhyw benderfyniad ar gyfnod clo clec yn ein tyb ni fel y gall yr amser hwnnw gael ei ddefnyddio yn gadarnhaol ac i’r eithaf, ynghyd â pha bolisiau a chynlluniau sydd rhaid bod yn eu lle i liniaru’r effaith ar fywoliaeth a llesiant pobol.

“Yn anochel, byddai dod â’r gyfradd R o dan 1 yn sylweddol ac aildanio’r system brofi, olrhain ac ynysu yn gorfod bod yn brif amcanion cyfnod clo clec.

“Wedi i’r Llywodraeth amlinellu ei chynlluniau, mae’n rhaid i’r Senedd gael y cyfle i drafod a phleidleisio ar y cynlluniau hynny.

“Dyna pam y byddwn ni’n gofyn i’r Llywydd a’r Pwyllgor Busnes wneud amser ar gyfer cynnal dadl frys ar gynnig y gellir ei wella ar gynlluniau’r llywodraeth ar gyfnod clo clec ar y cyfle cynharaf yn y Senedd wythnos nesaf.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.