Mae Cyngor Môn yn cynghori pobol i fynd i gael prawf coronafeirws os ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd wedi bod yn un o ddwy dafarn yn Llannerch-y-medd.

Fe ddaw ar ôl i’r Bull Inn bostio neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhybuddio am gynnydd mewn achosion yn yr ardal.

Mae’r ddwy dafarn wedi’u cau “er budd ein staff, cwsmeriaid a’r gymuneed leol”, medd y neges.

“Rydym yn gweithio’n agos gydag adran ‘Iechyd yr Amgylchedd’ Cyngor Sir Ynys Môn ynglŷn â beth yw gwraidd yr achosion lleol,” meddai’r neges wedyn.

“Rydym hefyd yn edrych yn agos ar pa [sic] fesurau pellach y gallwn eu rhoi ar waith er mwyn helpu i leihau risg y firws pan fyddem [sic] yn ail-agor.

“Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi ar ddydd Llun yr 19eg o Hydref y posibilrwydd o gyfyngiadau pellach yng Nghymru.

“Unwaith y byddwn yn ymwybodol o’r rhain, byddwn yn cynllunio yn unol â hynny.”

Cyngor gan y Cyngor

Mae Cyngor Môn yn cynghori pobol i fynd i gael prawf “cyn gynted â phosib”.

“PWYSIG: Os ydych yn dangos symptomau Coronafeirws ar ôl bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd wedi bod yn y Bull neu’r Twrcyhelun Arms yn ddiweddar EWCH AM BRAWF CYN GYNTED Â PHOSIB,” meddai’r neges.

“Mae canolfan brofi ar un o feysydd parcio Swyddfa’r Sir yn Llangefni heddiw.”