Mae canolfan brofi ‘gyrru heibio’ ar gyfer y coronafeirws wedi’i hagor yn Llangefni.

Bydd y ganolfan mewn maes parcio ger swyddfeydd Cyngor Môn ar agor ddydd Sul, dydd Llun a dydd Mawrth rhwng 10yb a 4yp.

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sy’n gyfrifol am y ganolfan, a hynny ar gais Llywodraeth Cymru.

Gall trigolion lleol fynd i’r ganolfan heb apwyntiad ymlaen llaw.

Mae’r awdurdodau’n pwysleisio na fydd unrhyw un mewn perygl o fynd â’r ganolfan yno.

Croesawu’r ganolfan

Mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn, wedi croesawu’r ganolfan.

“Gyda’r cynnydd diweddar mewn achosion positif, mae canolfan brofi ar gyfer trigolion Môn yn hanfodol,” meddai.

“Mae hyn yn sicrhau na fydd rhaid i drigolion lleol ymweld â chanolfannau profi eraill mewn ardaloedd dan gyfyngiadau pellach ar y tir mawr.

“Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ymateb yn gadarnhaol i’n cais ni i leoli canolfan brofi ar yr Ynys; ac i gyfeillion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu cefnogaeth barhaus.”

“Bydd y safle yma’n cynyddu ein gallu profi ar gyfer trigolion lleol ac yn ychwanegu at Unedau Profi Cymunedol sydd gan y Bwrdd Iechyd eisoes ar draws y rhanbarth,” meddai Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Mae’r cyfleusterau yma yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd ac yn darparu’r canlyniadau gorau ar gyfer cleifion.”