Mae protestiadau’n cael eu cynnal ledled Ffrainc er cof am athro gafodd ei lofruddio gan ffoadur 18 oed ger Paris.

Cafodd y dyn, oedd yn athro Hanes, ei ddienyddio ar ôl iddo fod yn trafod delweddau o’r proffwyd Mohammed yn ei ddosbarth.

Cafodd y dyn 18 oed, oedd yn wreiddiol o Chechnya, ei saethu’n farw gan yr heddlu’n ddiweddarach.

Bydd arweinwyr gwleidyddol, cymdeithasau ac undebau’n dod ynghyd mewn dinasoedd ledled y wlad yn ystod y dydd.

Mae deg o bobol bellach wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r digwyddiad, sy’n cael ei drin gan yr awdurdodau fel un ag iddo gymhelliant brawychol.

Mae o leiaf bedwar o’r rhai yn y ddalfa’n perthyn i’r llofrudd, oedd wedi cael yr hhawl i fyw yn Ffrainc am ddeng mlynedd ym mis Mawrth.

Roedd y llofrudd yn cario cyllell a dryll cyn yr ymosodiad.

Ymunodd ei hanner chwaer â Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn Syria yn 2014.

Daeth yr heddlu o hyd i neges destun ar ffôn y dyn lle’r oedd e’n hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad, ynghyd â llun o’r athro ar ôl iddo gael ei ladd.