Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i lofruddiaeth dynes 43 oed yng Nghaerffili.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn eiddo yn y dref am oddeutu 12.10 fore heddiw (dydd Sul, Hydref 18).

Mae dyn 42 oed o Gaerffili wedi’i arestio ar amheuaeth o’i llofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.