Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dedfrydu dynes i farwolaeth yn Indiana am y tro cyntaf ers dros chwe degawd.

Cafwyd Lisa Montgomery o dagu Bobbie Jo Stinnett, dynes feichiog, torri ei chorff a chipio’i babi o’r groth ym Missouri yn 2004.

Gyrrodd hi o Kansas i Missouri gan esgus ei bod hi eisiau mabwysiadu ci bach ganddi.

Ond defnyddiodd hi raff i ladd y ddynes cyn defnyddio cyllell i dorri’r ferch fach o’r groth cyn esgus mai ei babi hi oedd hi.

Yn ôl ei chyfreithwyr, roedd hi’n dioddef o salwch meddwl ar y pryd oedd yn golygu ei bod hi’n credu ei bod hi wedi bod yn feichiog, ond fe wnaeth y rheithgor wrthod hynny.

Mae disgwyl iddi wynebu’r gosb eithaf ar Ragfyr 8.

Hi fydd y nawfed carcharor i wynebu’r gosb eithaf ers i’r Adran Gyfiawnder ailgyflwyno’r gosb am y tro cyntaf ers ugain mlynedd ym mis Gorffennaf.