Mae Llafur yr Alban yn paratoi i herio Margaret Ferrier pe bai hi’n camu o’r neilltu neu’n cael ei gorfodi i ymddiswyddo gan yr SNP.

Fe fu aelod seneddol yr SNP tros Rutherglen a Gorllewin Hamilton dan y lach ar ôl teithio o’r Alban i San Steffan heb ynysu er bod ganddi symptomau’r coronafeirws, gan ddychwelyd yn ddiweddarach ar ôl cael prawf positif.

Mae hi wedi colli chwip ei phlaid, ac mae’r prif weinidog Nicola Sturgeon ac eraill yn galw am ei hymddiswyddiad.

Gallai is-etholiad gael ei gynnal pe bai hi’n camu o’r neilltu neu pe bai deiseb yn ei gorfodi hi i adael ei swydd, ond byddai angen ei bod hi’n cael ei diarddel o San Steffan am ddeng niwrnod cyfarfod, neu 14 diwrnod pe na bai diwrnodau cyfarfod wedi’u pennu.

Byddai angen i 10% o’i hetholwyr lofnodi deiseb er mwyn gorfodi is-etholiad wedyn.

Ymateb Llafur yr Alban

Mae Richard Leonard, arweinydd Llafur yr Alban, yn dweud y bydd ymgeisydd yn barod “o fewn wythnosau” pe bai is-etholiad yn cael ei gynnal.

Fe wnaeth Margaret Ferrier drechu’r ymgeisydd Llafur Ged Killen yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.

“Mae Margaret Ferrier wedi siomi pobol yr etholaeth hon ac wedi ildio’i hawl i’w cynrychioli nhw yn y Senedd drwy anwybyddu rheolau Covid y mae’n rhaid i ni gyd eu dilyn,” meddai Richard Leonard.

“Mae Rutherglen a Gorllewin Hamilton yn haeddu aelod seneddol sy’n blaenoriaethu’r frwydr i amddiffyn swyddi ac incwm gweithwyr, sy’n wynebu’r fath fygythiad gan Covid, yn hytrach na chanolbwyntio ar gynnal cyflog seneddol a buddiannau San Steffan.”

Mae e wedi ei chyhuddo o siarad yn barhaus “er ei lles ei hun”.