Mae achosion Coronafeirws nawr wedi’u cadarnhau yn Ysgol Cybi, Caergybi, ac Ysgol Sefydledig Caergeiliog.

Mae un aelod o staff Ysgol Cybi wedi profi’n bositif am Goronafeirws, yn ogystal ag un disgybl yn Ysgol Sefydledig Caergeiliog.

Daw hyn ar ôl i achosion gael eu cadarnhau yn Ysgol Corn Hir, Ysgol y Borth, Ysgol Llanfechell, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Uwchradd Langefni ac Ysgol Gynradd Talwrn.

Cafodd rhieni a staff eu hysbysu yn gynharach heddiw ddydd Llun (Hydref 12) ac maen nhw wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r Cyngor Sir hefyd wedi derbyn cadarnhad bod trydydd disgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni, sydd bellach yn hunanynysu, wedi derbyn prawf positif am y coronafeirws.

Bydd Ysgol Cybi, Ysgol Sefydledig Caergeiliog ac Ysgol Gyfun Llangefni yn parhau i fod ar agor ar gyfer y dosbarthiadau sydd heb eu heffeithio.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r ysgolion sydd wedi’u heffeithio ac yn cefnogi’r staff yn ystod y cyfnod anodd yma. Estynnwn ein dymuniadau gorau i’r plant a’r aelod staff sydd wedi’u heffeithio, eu teuluoedd a chymunedau’r ysgolion yn eu cyfanrwydd,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan.

“Ein blaenoriaeth yw lles y disgyblion, staff a’r gymuned ehangach. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ym mhob un o’r ysgolion sydd wedi’u heffeithio, er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.”