Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu a gwarchod y bobol fwyaf bregus yng nghymdeithas yn y frwydr yn erbyn pandemig y coronafeirws.

Mae Gweinidog Iechyd Cysgodol, Andrew RT Davies, wedi galw am ailddechrau’r broses gysgodi i bobol sydd â chyflyrau iechyd tymor hir.

Daw hyn ar ôl i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau fod 127 achos o’r coronafeirws ymysg staff a phreswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru hyd at Hydref 4

Mae Andrew RT Davies hefyd am weld y Llywodraeth yn cyflwyno Cynllun Amddiffyn y Gaeaf ac i ystyried cynigion megis y rhai isod:

  • Cynllun bocs bwyd newydd i’r 130,000 sydd ar y rhestr cysgodi.
  • Pecyn ariannol i’r sawl sy’n cysgodi neu’n methu gweithio.
  • Blaenoriaethu profion i ofalwyr.
  • Gweithio gydag archfarchnadoedd i gyflwyno slot dwy awr i bobol sydd mewn risg, dros 70, neu’r ddau.
  • Gwarant iechyd corfforol a meddyliol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobol yn gallu gadael eu tai er mwyn ymarfer corff.
  • Edrych ar fesurau hamdden, cymunedol ac adloniant.
  • Ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus sy’n pwysleisio pwysigrwydd “dwylo, gwyneb a gofod”

“Mae gan Weinidogion ddyletswydd i warchod y bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas a gyda gofidion am y ffordd mae’r feirws yn mynd, dyw hi ddim ond yn iawn ein bod yn gwarchod y rheini sydd â mwyaf o risg,” meddai Andrew RT Davies.

“Nid yw cysgodi’n broses hawdd na di-boen, a dylai Gweinidogion Llafur wedi dysgu gwersi hanfodol ynghylch peryglau unigrwydd ac ynysu yn ystod y don gyntaf.

“Rydym yn credu ei bod hi’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n blaenoriaethu cynllun gwarchod sy’n cynnwys nifer o fesurau ariannol, hamdden ac emosiynol ar gyfer y rhai sydd mewn mwyaf o berygl, yn hytrach na chau elfennau mawr o economi Cymru.”