Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau fod 127 achos o’r coronafeirws ymysg staff a phreswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru hyd at Hydref 4.

“Mae’r data diweddaraf yn dangos, gyfanswm o 127 o achosion ar draws staff a thrigolion yma yng Nghymru, hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar Hydref 4,” meddai.

“Gyda dros 1000 o gartrefi gofal yng Nghymru, mae hynny’n rhoi cyfradd o 0.7% i ni.”

Nid oedd modd i Vaughan Gething roi gwybod faint o gartrefi gofal sydd wedi eu heffeithio.

Er i gartrefi gofal gael ailagor ar gyfer ymweliadau tu mewn ar Awst 28, ers i reolau coronafeirws newydd ddod i rym yng Nghymru mae gofyn i bobol beidio ag ymweld â chartrefi gofal oni bai am ymweliadau diwedd oes.

Yn ystod y gynhadledd rhybuddiodd Vaughan Gething ein bod ar drothwy “ychydig ddyddiau difrifol iawn”.