Wrth drafod y mesurau newydd fydd yn cael eu cyflwyno yn Lloegr mewn cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra heddiw (dydd Llun, Hydref 12), mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud bod y cynlluniau ar gyfer cyfyngiadau teithio yn yr ardaloedd heintiedig yn Lloegr, yn “annigonol”.

Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson yn cadeirio’r cyfarfod bore ma er mwyn trafod system newydd tair-haen o gyfyngiadau lleol yn Lloegr.

“Mae’r Prif Weinidog wedi mynegi ei siom ynglyn a’r cynlluniau annigonol ar gyfer cyfyngiadau teithio mewn ardaloedd heintiedig yn Lloegr, ac wedi dweud y bydd na siom fawr mewn rhannau o Gymru lle mae nifer yr achosion o heintiadau yn is,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Rydw i a’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] yn siomedig iawn fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ddim am gyflwyno mwy nag arweiniad ar deithio allan o ardaloedd heintiedig.

“Nid yw hwn yn fater i Gymru yn unig, ond i ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, boed hynny yn ardaloedd a chyfraddau is yn Lloegr neu yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau cwarantin ar bobl sy’n dod i Gymru o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd a lefelau uchel o’r coronafeirws, yn cwrdd yn ddiweddarach heddiw i “wneud penderfyniadau”.

Mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, amlinellu ei strategaeth tair-haen ar gyfer ardaloedd yn Lloegr heno (Hydref 12).

Bydd ardaloedd yn Lloegr yn cael eu rhoi mewn categorïau o risg cymedrol, uchel neu uchel iawn.

Ychwanegodd y llefarydd fod Mark Drakeford wedi gofyn am fwy o eglurder am y strategaeth tair-haen, ac nad oedd cefnogaeth ariannol ddiweddaraf y Tysorlys “yn mynd yn ddigon pell i amddiffyn y gweithwyr ar y cyflogau isaf.”

“Pryder”

Er bod cyfyngiadau lleol a chenedlaethol hyd yma wedi helpu i gadw lledaeniad y feirws dan reolaeth, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi dweud bod  “pryder cynyddol na fydd y rhain yn ddigon i’n helpu trwy’r gaeaf.”

“Dydw i ddim am ddychryn pobol ond dw i am i bobol ddeall ein bod o bosibl yn wynebu ychydig fisoedd anodd iawn,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.

Bellach mae dros 100 o achosion ymhob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru.

“Dw i’n cydymdeimlo a phawb sydd wedi colli rhywun yn ystod y pandemig,” meddai.

“Ond yn drist iawn, rydyn ni’n disgwyl y bydd mwy o bobol yn marw o ganlyniad i’r coronafeirws y gaeaf hwn.”

Mae Vaughan Gething hefyd wedi rhybuddio ein bod ar drothwy cyfnod “difrifol iawn”.

Fe rybuddiodd hefyd y gallai cyfyngiadau cenedlaethol gael eu hystyried os yw’r sefyllfa’n gwaethygu.

Y diweddaraf: llythyr arall

Dywedodd Prif Weinidog Cymru yn nes ymlaen yn y dydd ei fod am “roi un cyfle arall” i Brif Weinidog Prydain gyflwyno gwaharddiad.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai’n ysgrifennu at Boris Johnson eto i ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu i gymryd camau i atal pobl o ardaloedd â niferoedd uchel o achosion yn Lloegr rhag dod i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn fod ganddi’r pwerau i wneud hyn a bydd y llythyr diweddaraf yn gwneud hynny’n glir i’r Prif Weinidog, Boris Johnson.

Os nad oes unrhyw weithredu o hyd, mae Gweinidogion Cymru yn dweud y byddant yn deddfu ar y mater.