Mae teulu Alun Owen, oedd yn cael ei adnabod fel ‘Al Bonc’ wedi talu teyrnged iddo, ar ôl iddo gael ei gipio gan afon yn Abergwyngregyn wrth iddo weithio i Openreach ddydd Mawrth (Hydref 6).

Dywedodd ei deulu nad oes geiriau a all ddisgrifio’r boen o golli Alun Owen ac eu bod yn ei chael hi’n anodd gwneud synnwyr o’i farwolaeth.

“Roedd Al yn ŵr cariadus i’w enaid hoff cytûn Ceri ac roedd yn dotio ar ei efeilliaid Cet ac Anni,” meddai datganiad gan y teulu.

“Yn fab ffyddlon i Cath a’r diweddar Iolo Owen, roedd Al hefyd yn frawd triw a doniol i Geth, Mei, Robs a Lowri. Roedd Richard a Rhian Ogwen-Jones, ei dad a’i fam yng nghyfraith yn meddwl y byd ohono.

“Roedd Al hefyd y tad, brawd yng nghyfraith, ewythr, nai, cefnder a’r ffrind anwylaf i lawer un yng Nghymru a thu hwnt. Roedd ganddo amser i wrando bob amser.”

“Clamp o gymeriad”

“Roedd pawb a oedd yn ffodus o ddod i adnabod Al yn sylweddoli’n fuan ei fod yn glamp o gymeriad gyda synnwyr digrifwch direidus.

“Roedd yn llawn hwyl ac egni gydag agwedd hapus braf i fywyd ac wrth ei fodd yn cynorthwyo pobl a byddai’n mynd yr ail filltir i roi help llaw i rywun.

“Roedd yn gwbl anhunanol a dyna pam ei fod mor boblogaidd ymysg ei lu o ffrindiau ac yn wir o fewn y gymuned lle adwaenid ef yn hoffus fel ‘Al Bonc’.”

Mae’r teulu wedi diolch i bawb am eu holl gefnogaeth ac am y geiriau o gysur.