Mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi ymateb yn chwyrn i agwedd Boris Johnson tuag at bobol sy’n teithio o ardaloedd risg uchel i lefydd gyda chyfraddau is yng Nghymru.

“Dwi’n gynddeiriog gydag agwedd y Prif Weinidog”, meddai Adam Price wrth BBC Cymru.

“Yn flaenorol mae Mark Drakeford wedi dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth o’r haint yn ymledu gan bobol yn teithio dros y ffin.

“Nawr rydym yn clywed gan Vaughan Gething am y tro cyntaf fod tystiolaeth wirioneddol fod achosion o ganlyniad i bobol yn dod o ardaloedd sydd â lefelau uchel yn Lloegr i Gymru.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu heddiw.”

‘Annigonol’

Mae Prif Weinidog Cymru,Mark Drakeford, eisoes wedi dweud fod y mesurau yn “annigonol” ac wedi mynegi ei siom ynglyn ag ymateb Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mewn cynhadledd newyddion brynhawn heddiw dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Rydw i a’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] yn siomedig iawn fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ddim am gyflwyno mwy nag arweiniad ar deithio allan o ardaloedd heintiedig.

“Nid yw hwn yn fater i Gymru yn unig, ond i ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, boed hynny yn ardaloedd a chyfraddau is yn Lloegr neu yng Nghymru,” meddai.

Mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson gyhoeddi nifer o fesurau llymach yn Lloegr i geisio atal ymlediad yr haint yno.