Fe fydd tafarndai, campfeydd a casinos mewn rhai ardaloedd yn Lloegr yn cael eu gorfodi i gau o dan fesurau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Hydref 12) mewn ymdrech i atal y coronafeirws rhag lledu.

Fe fydd hefyd yn golygu y bydd teithiau sydd ddim yn hanfodol yn cael eu gwahardd yn y llefydd sydd a’r nifer fwyaf o achosion o’r coronafeirws.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson amlinellu ei strategaeth tair-haen ddydd Llun gydag ardaloedd yn Lloegr yn cael eu rhoi mewn categorïau o risg cymedrol, uchel neu uchel iawn. Fe fydd y categorïau yn sicrhau bod y “cyfyngiadau priodol” yn cael eu cyflwyno yn yr ardaloedd hynny.

Y disgwyl yw mai Glannau Mersi fydd ymhlith y llefydd fydd yn cael eu rhoi dan gyfyngiadau haen 3 ond mae ’na anghydweld ynglŷn â’r pecyn cymorth ariannol i’r ardal os yw cyfyngiadau llym yn cael eu cyflwyno.

Y sector lletygarwch yn ‘dioddef’

Mewn datganiad, dywedodd saith arweinydd lleol nad yw’r cynllun ffyrlo yn “ddigonol ac y bydd busnesau yn y rhanbarth, yn enwedig y rhai yn y sector lletygarwch a’r busnesau sy’n eu gwasanaethu, yn cael eu niweidio ac fe fydd nifer yn dioddef yn y tymor hir neu’n gorfod cau eu drysau’n barhaol.”

O dan y cynllun ffyrlo roedd y llywodraeth yn talu 80% o gyflogau gweithwyr hyd at fis Awst gyda’r cynllun yn dod i ben ar ddiwedd y mis.

Fe fydd cynllun cymorth swyddi ar wahân, sy’n dod i rym ar Dachwedd 1 ac yn para am chwe mis, yn golygu bod y Llywodraeth yn talu dwy ran o dair o gyflog gweithwyr, hyd at £2,100 y mis, os yw eu cyflogwyr yn gorfod cau oherwydd y cyfyngiadau.

Yn ôl papur newydd The Sun,  Lerpwl, Leeds a Newcastle fydd yn wynebu’r cyfyngiadau mwyaf llym.

Knowsley a Lerpwl sydd a’r nifer fwyaf o achosion o Covid yn Lloegr. Yn y saith diwrnod diwethaf hyd at Hydref 8, roedd yr ardaloedd hynny wedi cofnodi 4,000 o achosion newydd.

Fe fydd Boris Johnson yn cynnal cynhadledd newyddion yn Downing Street gyda’r Canghellor Rishi Sunak a’r prif swyddog meddygol yr Athro Chris Whitty yn ddiweddarach ddydd Llun.