Mae prif arbenigwr clefydau heintus yr Unol Daleithiau wedi condemnio ymgyrch Arlywyddol Donald Trump.
Roedd yr ymgyrch wedi rhyddhau hysbyseb lle’r oedd Dr Anthony Fauci yn canmol arweinyddiaeth yr Arlywydd, ond yn ôl yr arbenigwr mewn clefydau heintus mae ei sylwadau wedi eu cymryd “allan o’u cyd-destun”.
Eglurodd Dr Anthony Fauci ei fod yn siarad am ymateb swyddogion iechyd cyhoeddus i’r pandemig ac nid yr Arlywydd.
“Yn fy mhum degawd o wasanaeth cyhoeddus, nid wyf wedi cymeradwyo ymgeiswyr gwleidyddol yn gyhoeddus,” meddai.
Mewn ymateb mynnodd Tim Murtaugh, cyfarwyddwr cyfathrebu ymgyrch Donald Trump, mai “geiriau Dr Fauci eu hunain yw’r rhain” ac mai canmol ymateb y weinyddiaeth mae’r arbenigwr.
Imiwnedd yr Arlywydd
Mae’r Arlywydd hefyd wedi dweud fod ganddo “imiwnedd” i’r coronafeirws.
“Rwy’n imiwn,” meddai mewn cyfweliad ddydd Sul (Hydref 11).
“Mae’r Arlywydd mewn lle da iawn i barhau i ymladd ein brwydrau.”
Daw hyn wedi i feddyg y Tŷ Gwyn ddweud nad oedd yr Arlywydd bellach mewn perygl o drosglwyddo’r coronafeirws, ond ni ddywedodd a oedd wedi cael prawf negatif hyd yn hyn.
Treuliodd yr Arlywydd gyfnod byr yn yr ysbyty ar ôl profi’n bositif am y feirws.
Mae gan yr Arlywydd Trump amserlen brysur o’i flaen ac mae disgwyl iddo deithio bron bob dydd am weddill yr ymgyrch.
Bydd etholiad yr Unol Daleithiau yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, Tachwedd 3.