Mae prif weithredwr British Airways, Alex Cruz, wedi cael ei ddiswyddo wrth i’r cwmni hedfan geisio ymdopi gydag effeithiau’r coronafeirws.
Fe gyhoeddodd cwmni IAG, sy’n berchen British Airways, bod Alex Cruz wedi camu o’i swydd ar ôl pedair blynedd a hanner yn y rôl.
Mae’n cael ei olynu gan Sean Doyle, pennaeth Aer Lingus, sydd hefyd yn berchen i IAG.
Dywedodd Luis Gallego, prif weithredwr IAG, eu bod yn wynebu’r “argyfwng gwaethaf yn y diwydiant” a’i fod yn “hyderus” y bydd y newidiadau yn sicrhau bod IAG mewn sefyllfa fwy cadarn.
“Hoffwn ddiolch i Alex am yr oll mae e wedi’i wneud yn British Airways. Roedd wedi gweithio’n ddiflino i foderneiddio’r cwmni yn y blynyddoedd yn arwain at ddathlu canmlwyddiant y cwmni.”
Mae British Airways wedi cael ei feirniadu yn ystod y misoedd diwethaf am y modd roedd wedi cael gwared a 12,000 o swyddi.
Cafodd y cwmni eu cyhuddo o geisio ail-gyflogi staff gydag amodau gwaith a thelerau wedi’u hisraddio.
Mae’r pandemig wedi arwain at gwymp sylweddol yn y galw am hediadau, a does dim disgwyl i’r ffigurau ddychwelyd i lefelau 2019 tan 2024.