Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi awgrymu efallai bydd angen cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol yng Nghymru dros y dyddiau nesaf i fynd i’r afael a chynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Rhybuddiodd Vaughan Gething ein bod ar drothwy cyfnod “difrifol iawn”.

“Mae’n bosib iawn y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniad gwahanol ynglŷn â’r dull rydyn ni’n ei gymryd – mae hynny’n cynnwys mesurau lleol neu a ddylen ni symud i fesurau cenedlaethol”, meddai wrth Radio Wales.

“Rydyn ni’n ystyried y sefyllfa gyfredol lle mae gennym ni gyfyngiadau lleol ar draws y rhan fwyaf o Gymru a’r cynnydd mewn achosion yn gyffredinol.

“Mae rhai ardaloedd [dan gyfyngiadau lleol] ag ychydig o reolaeth dros y coronafeirws, rydym yn deall mwy o’n system profi ac olrhain, ond mae angen i ni gael trafodaeth am beth ddylai’n ymateb fod.”

Cyfyngiadau lleol ‘wedi gweithio i raddau’

Eglurodd y Gweinidog Iechyd fod “cyfyngiadau lleol wedi gweithio i raddau”.

Daw hyn wedi i gyfyngiadau lleol gael eu hymestyn am o leiaf wythnos arall yng Nghaerffili – sydd wedi bod dan gyfyngiadau lleol ers Medi 8.

Mae 17 o ardaloedd dan gyfyngiadau lleol bellach.

“Mae’n cymryd ymdrech ac ymrwymiad gan y gymuned leol, ond mae angen i ni feddwl ai dyna’r dull cywir o hyd neu a oes angen i ni gymryd mesurau cenedlaethol”, meddai.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn gobeithio fod pobol yng Nghymru yn cymryd sylwadau’r prif weinidog, Mark Drakeford, o ddifrif.

Wrth i nifer y bobol sydd wedi’u heintio â’r coronafeirws gynyddu’n sylweddol mae Mark Drakeford wedi rhybuddio fod Cymru’n “agos i’r dibyn”.

Bydd y Gweinidog Iechyd yn cynnal cynhadledd i’r wasg i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa coronafeirws yng Nghymru prynhawn yma (Dydd Llun, Hydref 12).