Mae Cymru’n “agos i’r dibyn” wrth i nifer y bobol sydd wedi’u heintio â’r coronafeirws gynyddu’n sylweddol, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.
Mae rhannau helaeth o Gymru’n destun cyfyngiadau lleol erbyn hyn yn dilyn yr hyn mae’n ei alw’n “gynnydd cyson” dros yr wythnosau diwethaf.
Erbyn ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 10), roedd 1,667 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad, yn ôl ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae nifer yr achosion sydd wedi’u cofrestru’n agos iawn at 30,000.
Fe fu pryderon ers tro y gallai ail don o’r coronafeirws daro Cymru a gweddill Prydain yn ystod misoedd y gaeaf.
‘Dim llawer o gysur’
Yn ôl Mark Drakeford, dydy’r sefyllfa ddim yn cymharu â’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr, ond mae’n dweud na ddylid cymryd “llawer o gysur” o’r sefyllfa.
Er nad yw’n barod i ddweud bod y sector lletygarwch wedi cyfrannu at y cynnydd, gyda thafarnau bellach yn cael agor tan 10 o’r gloch y nos, mae’n rhybuddio y gallai’r cynnydd mewn achosion effeithio’n sylweddol ar y Gwasanaeth Iechyd yn y pen draw.
“Rydyn ni’n sicr yn agos iawn i’r dibyn,” meddai.
“Dydy lefel yr haint yng Nghymru ddim ar yr un lefel â rhai rhannau o Loegr, ond ddylen ni ddim cael llawer o gysur o hynny oherwydd rydyn ni’n ni’n gweld niferoedd yn codi ledled Cymru ac yn cynyddu’n gyflym iawn mewn rhai rhannau o Gymru.
“Felly, er dw i ddim yn credu ein bod ni yn union yr un sefyllfa ag y maen nhw ar draws y ffin yn Lloegr, does dim llawer o gysur i’w gael.
“Rydyn ni’n mynd yn ôl i’r un math o ofynion ar y Gwasanaeth Iechyd ag a welsom yn gynharach yn y flwyddyn.
“Nid ar ddechrau’r haint mae gweld y gofynion ar y Gwasanaeth Iechyd wrth iddo deithio trwy’r gymuned, ond ar ôl i hynny ddigwydd am rai wythnosau.
“Dyna pryd mae rhai pobol yn cael eu taro’n wael ac mae angen i rai fynd i’r ysbyty, ac rydym yn dechrau gweld hynny.
“Mae nifer y bobol sydd angen gwely yn y Gwasanaeth Iechyd wedi codi’n gyson dros yr wythnosau diwethaf.
“Bydd angen gofal dwys ar rai o’r bobol hynny, ac yn drist iawn, fydd rhai o’r bobol hynny ddim yn goroesi’r salwch.
“Felly oni bai y gallwn ni wrthsefyll ton o’r coronafeirws yn ein cymuned, fe fyddwn ni’n gweld ein Gwasanaeth Iechyd yn dod o dan straen sylweddol iawn.”
“Cynllun diamwys”
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi “cynllun diamwys” i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Mae’n glir ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad anghywir yn nhermau ymlediad y feirws,” meddai.
“Dyna pam fod angen cynllun diamwys arnom, wedi’i mynegi’n glir, wedi’i weithredu’n effeithiol a’i orfodi’n llym.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddarparu’r data sy’n profi y gall dargedu ei hymdrechion yn iawn, gan gydbwyso camau llym ar glystyrau hefo lles pobol a busnesau.”